Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Clynnog Fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw [[Y Gelynnog]] mewn dogfennau cynnar.  
Mae '''Clynnog Fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw [[Y Gelynnog]] mewn dogfennau cynnar.  


Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun, sydd ger yr eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwchderwin]].
Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun, sydd ger yr eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwchderwin]].


Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.   
Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.   
Llinell 9: Llinell 9:


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn ''gyff Beuno'' sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim one fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn ''gyff Beuno'' sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.


Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig asawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws [[Bae Caernarfon]] o Glynnog Fawr ymysg eraill.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig a sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws [[Bae Caernarfon]] o Glynnog Fawr ymysg eraill.


==Tai a phobl nodedig==
==Tai a phobl nodedig==
Llinell 19: Llinell 19:
* [[Morys Clynnog]]
* [[Morys Clynnog]]
* [[Sant John Jones]]
* [[Sant John Jones]]
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr a llenor
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr, bardd a llenor
* [[Edgar Christian]], anturiaethwr a dyddiadurwr
* [[Edgar Christian]], anturiaethwr a dyddiadurwr
* [[Sion Robert Lewis]] y seryddwr a'r almanaciwr
* [[Robert Roberts]] y "seraff bregethwr"
* [[Syr Ifor Williams]], ysgolhaig
* [[R. Dewi Williams]], prifathro'r Ysgol Ragbaratoawl i Weinidogion [["Ysgol Eben Fardd"]] a llenor
* [[Hywel Roberts (Hywel Tudur)]], ysgolfeistr, gweinidog a bardd


==Y pentref==
==Y pentref==
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.


Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y prif westy, sef y Beuno, ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd y swyddfa bost a siop hefyd wedi cau, er bod siop wedi agor mewn garej ar gyrion y pentref erbyn hyn. Am hir, caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn un o ystafelloedd allan yr eglwys. Dyma le mae [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] wedi eis efydlu; neuadd y ganolfan yw hen [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i chaewyd ym 1929.
Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post hefyd wedi cau erbyn hynny, ond mae  siop wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae mae [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] wedi ei  sefydlu - yn hen [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929.


Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir [[Ffynnon Beuno]] ychydig i'r de ar ochr y lôn; a [[Cromlech Bachwen|Chromlech Bachwen]].   
Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir [[Ffynnon Beuno]] ychydig i'r de ar ochr y lôn; a [[Cromlech Bachwen|Chromlech Bachwen]].   

Fersiwn yn ôl 22:43, 18 Ionawr 2018

Mae Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw Y Gelynnog mewn dogfennau cynnar.

Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun, sydd ger yr eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwchderwin.

Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.

Ffiniau a thirwedd

Mae'n gorwedd i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.

Yr eglwys a'i sant

Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig a sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.

Tai a phobl nodedig

Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar-fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.

Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:

Y pentref

Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.

Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post hefyd wedi cau erbyn hynny, ond mae siop wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi ei sefydlu - yn hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929.

Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir Ffynnon Beuno ychydig i'r de ar ochr y lôn; a Chromlech Bachwen.