Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Clynnog-fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Yn ogystal â phentref Clynnog-fawr ei hun, ger yr eglwys nad yw'n nepell o'r môr, mae'n cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwchderwin]].
Mae '''Clynnog Fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Enw llawn yplwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw "Y Gelynnog" mewn dogfennau cynnar.  


Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n bosibl y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Clynnog Bach yn sir Fôn; neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.   
Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun, sydd ger yr eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwchderwin]].
 
Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.   


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Llinell 9: Llinell 11:
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn ''gyff Beuno'' sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim one fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
Credir i [[Beuno Sant]] sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn ''gyff Beuno'' sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim one fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.


Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig asawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws [[Bae Caernarfon]] o Glynnog-fawr ymysg eraill.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw [[Beuno Sant]], ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig asawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws [[Bae Caernarfon]] o Glynnog Fawr ymysg eraill.


==Tai a phobl nodedig==
==Tai a phobl nodedig==

Fersiwn yn ôl 17:49, 8 Ionawr 2018

Mae Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn yplwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw "Y Gelynnog" mewn dogfennau cynnar.

Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun, sydd ger yr eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwchderwin.

Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.

Ffiniau a thirwedd

Mae'n gorwedd i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.

Yr eglwys a'i sant

Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim one fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig asawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.

Tai a phobl nodedig

Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar-fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.

Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:

Y pentref

Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.

Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y prif westy, sef y Beuno, ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd y swyddfa bost a siop hefyd wedi cau, er bod siop wedi agor mewn garej ar gyrion y pentref erbyn hyn. Am hir, caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn un o ystafelloedd allan yr eglwys. Dyma le mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi eis efydlu; neuadd y ganolfan yw hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i chaewyd ym 1929.

Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir Ffynnon Beuno ychydig i'r de ar ochr y lôn; a Chromlech Bachwen.