Garmon Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Sant Garmon''' yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin [[Uwchgwyrfai]] yn [[Dyffryn Gwyrfai|Nyffryn Gwyrfai]]. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â [[Ffynnon Garmon]] ar lethrau dwyreiniol [[Moel Smytho]].
'''Sant Garmon''' yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin [[Uwchgwyrfai]] yn [[Dyffryn Gwyrfai|Nyffryn Gwyrfai]]. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â [[Ffynnon Garmon]] ar lethrau dwyreiniol [[Moel Smytho]]. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n bosibl yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Rhaid felly ystyried mai sant Celtaidd oedd Garmon yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd.
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Saint]]
[[Categori:Pobl]]

Fersiwn yn ôl 21:27, 23 Chwefror 2021

Sant Garmon yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin Uwchgwyrfai yn Nyffryn Gwyrfai. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n bosibl yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Rhaid felly ystyried mai sant Celtaidd oedd Garmon yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau