Llanllyfni (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2: Llinell 2:

Oherwydd i elw'r drefgordd fynd at yr eglwys yng Nghlynnog Fawr, nid oes llawer o fanylion ar gael yn [[Stent Uwchgwyrfai 1352]]<ref>Mae'r stent yn cael ei argraffu yng nghyfrol ''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838), tt.22-7</ref>, sef cofnod o holl ddaliadau tir yn [[Uwchgwyrfai]] ar ganol y 14g., ond eto mae rhai manylion yn ddifyr. Unig ddyletswydd a oedd gan y trigolion tuag at y tywysog o ran gwasanaethau a threthi oedd y ddyletswydd i falu ym melin yr arglwydd, sef [[Melin Eithinog]], a thalu unrhyw daliadau a orchmynwyd gan y Twrn Mawr (llys sirol a sefydlwyd gan y Saeson wedi 1284).

Yn ddiweddarach (efallai ar ôl 1536 gyda diddymiad eglwys golegol [[Clynnog-fawr]]), rhannwyd Llanllyfni yn drefgorddau [[Eithinog (trefgordd)]] a [[Nantlle (trefgordd)]].

Isod ceir cyfieithiad rhydd o'r ychydig fanylion sydd i'w cael yn y Stent:
Isod ceir cyfieithiad rhydd o'r ychydig fanylion sydd i'w cael yn y Stent:
Llinell 13: Llinell 15:

[[Categori:Ffiniau]]
[[Categori:Ffiniau]]
[[Categori:Trefgorddi]]
[[Categori:Trefgorddau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:26, 15 Ionawr 2021

Roedd Llanllyfni yn enw ar hen drefgordd yn ystod Oes y Tywysogion ac o dan y tywysogion Seisnig a'u dilynodd; ardal llai o lawer oedd y drefgordd na'r plwyf presennol, ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr oedd yn derbyn unrhyw ardrethi o'r drefgordd yn hytrach na'r tywysog. Am erthygl ar blwyf a phentref Llanllyfni yn yr oes fodern, gweler manylion o dan Llanllyfni.

Oherwydd i elw'r drefgordd fynd at yr eglwys yng Nghlynnog Fawr, nid oes llawer o fanylion ar gael yn Stent Uwchgwyrfai 1352[1], sef cofnod o holl ddaliadau tir yn Uwchgwyrfai ar ganol y 14g., ond eto mae rhai manylion yn ddifyr. Unig ddyletswydd a oedd gan y trigolion tuag at y tywysog o ran gwasanaethau a threthi oedd y ddyletswydd i falu ym melin yr arglwydd, sef Melin Eithinog, a thalu unrhyw daliadau a orchmynwyd gan y Twrn Mawr (llys sirol a sefydlwyd gan y Saeson wedi 1284).

Yn ddiweddarach (efallai ar ôl 1536 gyda diddymiad eglwys golegol Clynnog-fawr), rhannwyd Llanllyfni yn drefgorddau Eithinog (trefgordd) a Nantlle (trefgordd).

Isod ceir cyfieithiad rhydd o'r ychydig fanylion sydd i'w cael yn y Stent:

LLANLLYFNI
Delir y drefgordd hon o dan Sant Beuno. Ac mae yn cael ei dal gan Dafydd ap Einion, Dafydd ap Gronw ac eraill sydd yn daeogion i ddynion rhydd Clynnog. Ac nid oes arnynt ardreth bob blwyddyn i’r Arglwydd Dywysog ar wahân i ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac heblaw am dalu eu cyfran o ddirwyon y tyrnau mawr.

Cyfeiriadau

  1. Mae'r stent yn cael ei argraffu yng nghyfrol Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.22-7