Melin Eithinog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Melin Eithinog oedd un o brif felinau cwmwd Uwchgwyrfai yn y Canol Oesoedd, ac roedd tenantiaid yr arglwydd/tywysog mewn nifer o drefgorddau'n gorfod defnyddio'r felin hon i falu eu grawn. Safai ar Afon Llyfni, yn nhrefgordd Eithinog, ac er nad yw'r safle'n sicr, mae'n debyg ei bod hi naill ai'n rhagflaenydd i'r felin a elwid yn Melin Lleuar nid nepell o fryngaer Craig y Dinas (ond efallai ar ochr arall yr afon) neu'n rhagflaenydd Melin Glan-yr-afon ger fferm Eithinog Ganol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gweler er erthygl ar Stent Uwchgwyrfai 1352 am fanylion o'r rhai oedd â dyletswydd i ddefnyddio'r felin.