Pontydd Rheilffordd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Adeiladwyd nifer o '''bontydd rheilffordd''' gan y tair prif reilffordd sydd wedi rhedeg yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn Uwchgwyrfai, seg Rheilf...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Adeiladwyd nifer o '''bontydd rheilffordd''' gan y tair prif reilffordd sydd wedi rhedeg yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn [[Uwchgwyrfai]], seg [[Rheilffordd Nantlle]], [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]] a ddaeth wedyn yn rhan o rwydwaith cenedlaethol y rheilffyrdd, a [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]]. Ar ôl cau'r rheilffyrdd, mae rhai pontydd wedi eu chwalu gan eu bod yn ffordd rhy ddatblygiad newydd neu oherwydd eu bod yn beryglus, tra bod eraill yn dal i sefyll. Mae [[Rheilffordd Eryri]] wedi ailddefnyddio rhai o'r pontydd hyn wrth agor o Gaernarfon i ffin Uwchgwyrfai ger gorsaf [[Rhyd-ddu]].
Adeiladwyd nifer o '''bontydd rheilffordd''' gan y tair prif reilffordd sydd wedi rhedeg yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn [[Uwchgwyrfai]], sef [[Rheilffordd Nantlle]], [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], a ddaeth wedyn yn rhan o rwydwaith cenedlaethol y rheilffyrdd, a [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]]. Ar ôl cau'r rheilffyrdd, chwalwyd rhai pontydd gan eu bod yn rhwystr i ddatblygiadau newydd neu oherwydd eu bod yn beryglus, tra bod eraill yn dal i sefyll. Mae [[Rheilffordd Eryri]] wedi ailddefnyddio rhai o'r pontydd hyn wrth agor o Gaernarfon i ffin Uwchgwyrfai ger gorsaf [[Rhyd-ddu]]. Fel arfer enwyd y pontydd hyn ar ôl fferm neu dŷ cyfagos - megis [[Pont Cae-moel]].
 
Ceir rhai pontydd dros afonydd a nentydd, a darparwyd pontydd lle roedd y rheilffordd a'r ffordd yn croesi ei gilydd ar lefelau gwahanol, lle'r oedd y lein o gledrau'n rhedeg mewn hafn (''cutting'') neu ar arglawdd (''embankment''). Lle roedd y ffordd yn brysur, codwyd argloddiau a phontydd i gario ffyrdd dros y rheilffordd mewn achosion lle roedd maint y drafnidiaeth yn gwneud crosin neu groesfan yn anymarferol. Gwnaed pontydd bach hefyd i hwyluso gwaith ffermwyr ac eraill a oedd â thir y ddwy ochr i'r lein, ac weithiau bontydd bach isel ar gyfer anifeiliaid.  


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pontydd Rheilffyrdd]]
[[Categori:Pontydd ]]
[[Categori:Rheilffyrdd]]
[[Categori:Rheilffyrdd]]
[[Categori:Pontydd Rheilffordd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:50, 14 Ionawr 2022

Adeiladwyd nifer o bontydd rheilffordd gan y tair prif reilffordd sydd wedi rhedeg yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn Uwchgwyrfai, sef Rheilffordd Nantlle, Rheilffordd Sir Gaernarfon, a ddaeth wedyn yn rhan o rwydwaith cenedlaethol y rheilffyrdd, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Ar ôl cau'r rheilffyrdd, chwalwyd rhai pontydd gan eu bod yn rhwystr i ddatblygiadau newydd neu oherwydd eu bod yn beryglus, tra bod eraill yn dal i sefyll. Mae Rheilffordd Eryri wedi ailddefnyddio rhai o'r pontydd hyn wrth agor o Gaernarfon i ffin Uwchgwyrfai ger gorsaf Rhyd-ddu. Fel arfer enwyd y pontydd hyn ar ôl fferm neu dŷ cyfagos - megis Pont Cae-moel.

Ceir rhai pontydd dros afonydd a nentydd, a darparwyd pontydd lle roedd y rheilffordd a'r ffordd yn croesi ei gilydd ar lefelau gwahanol, lle'r oedd y lein o gledrau'n rhedeg mewn hafn (cutting) neu ar arglawdd (embankment). Lle roedd y ffordd yn brysur, codwyd argloddiau a phontydd i gario ffyrdd dros y rheilffordd mewn achosion lle roedd maint y drafnidiaeth yn gwneud crosin neu groesfan yn anymarferol. Gwnaed pontydd bach hefyd i hwyluso gwaith ffermwyr ac eraill a oedd â thir y ddwy ochr i'r lein, ac weithiau bontydd bach isel ar gyfer anifeiliaid.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau