Afon Gwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau) Ychwanegu gwybdoaeth am yr enw Afon Cyrnant. |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Un o'r prif afonydd sy'n rhedeg drwy ardal [[Uwchgwyrfai]] yw '''Afon Gwyrfai'''. Mae'n ffurfio ffin ogledd-ddwyreiniol i'r cwmwd. | Un o'r prif afonydd sy'n rhedeg drwy ardal [[Uwchgwyrfai]] yw '''Afon Gwyrfai'''. Mae'n ffurfio ffin ogledd-ddwyreiniol i'r cwmwd. | ||
Awgrymodd y diweddar Athro Melville Richards fod yr enw "Gwyrfai" yn cynnwys dwy elfen, sef ''gŵyr'' a ''bai'', y ddau air wedi arfer golygu rhywbeth yn debyg i dro. Mae hwn yn enw addas ar yr afon felly, gan ei bod yn troellu lawer gwaith cyn cyrraedd y môr, a hynny heb yr un darn syth.<ref>Melville Richards, ''Enwau | Awgrymodd y diweddar Athro Melville Richards fod yr enw "Gwyrfai" yn cynnwys dwy elfen, sef ''gŵyr'' a ''bai'', y ddau air wedi arfer golygu rhywbeth yn debyg i dro. Mae hwn yn enw addas ar yr afon felly, gan ei bod yn troellu lawer gwaith cyn cyrraedd y môr, a hynny heb yr un darn syth.<ref>Melville Richards, ''Enwau Tir a Gwlad'', (Caernarfon, 1998), t.23</ref> | ||
Credir i'r afon darddu o [[Llyn y Gader|Lyn y Gader]] ger [[Drws-y-Coed]], ac mae'n rhedeg i lawr drwy ran enfawr o Eryri ac yn llifo i'r môr yn y [[Foryd]] ger Llanfaglan.<ref>[https://cy.wikipedia.org/wiki/Afon_Gwyrfai Erthygl am y lle hwn ar Wicipedia]</ref>. Ar hen fapiau, gelwir yr afon uwchben [[Llyn Cwellyn]] yn [[Afon Cwellyn]],<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/76</ref> a cheir cyfeiriadau at yr afon yn uwch i fyny, lle mae'n llifo o dan [[Pont Rhyd-ddu|Bont Rhyd-ddu]], fel [[Afon Llyn-y-gadair]].<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/153</ref> [[Afon Cyrnant]] yw'r enw yr oedd y bobl leol yn arfer ei arddel am y darn o Afon Gwyrfai sy'n yn llifo heibio i Goed Cyrnant. | Credir i'r afon darddu o [[Llyn y Gader|Lyn y Gader]] ger [[Drws-y-Coed]], ac mae'n rhedeg i lawr drwy ran enfawr o Eryri ac yn llifo i'r môr yn y [[Foryd]] ger Llanfaglan.<ref>[https://cy.wikipedia.org/wiki/Afon_Gwyrfai Erthygl am y lle hwn ar Wicipedia]</ref>. Ar hen fapiau, gelwir yr afon uwchben [[Llyn Cwellyn]] yn [[Afon Cwellyn]],<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/76</ref> a cheir cyfeiriadau at yr afon yn uwch i fyny, lle mae'n llifo o dan [[Pont Rhyd-ddu|Bont Rhyd-ddu]], fel [[Afon Llyn-y-gadair]].<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/153</ref> [[Afon Cyrnant]] yw'r enw yr oedd y bobl leol yn arfer ei arddel am y darn o Afon Gwyrfai sy'n yn llifo heibio i Goed Cyrnant. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 20:13, 28 Rhagfyr 2023
Un o'r prif afonydd sy'n rhedeg drwy ardal Uwchgwyrfai yw Afon Gwyrfai. Mae'n ffurfio ffin ogledd-ddwyreiniol i'r cwmwd.
Awgrymodd y diweddar Athro Melville Richards fod yr enw "Gwyrfai" yn cynnwys dwy elfen, sef gŵyr a bai, y ddau air wedi arfer golygu rhywbeth yn debyg i dro. Mae hwn yn enw addas ar yr afon felly, gan ei bod yn troellu lawer gwaith cyn cyrraedd y môr, a hynny heb yr un darn syth.[1]
Credir i'r afon darddu o Lyn y Gader ger Drws-y-Coed, ac mae'n rhedeg i lawr drwy ran enfawr o Eryri ac yn llifo i'r môr yn y Foryd ger Llanfaglan.[2]. Ar hen fapiau, gelwir yr afon uwchben Llyn Cwellyn yn Afon Cwellyn,[3] a cheir cyfeiriadau at yr afon yn uwch i fyny, lle mae'n llifo o dan Bont Rhyd-ddu, fel Afon Llyn-y-gadair.[4] Afon Cyrnant yw'r enw yr oedd y bobl leol yn arfer ei arddel am y darn o Afon Gwyrfai sy'n yn llifo heibio i Goed Cyrnant.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Melville Richards, Enwau Tir a Gwlad, (Caernarfon, 1998), t.23
- ↑ Erthygl am y lle hwn ar Wicipedia
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/76
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/153