Y Foryd

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Foryd)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Foryd yw'r enw ar aber rhwng Trwyn Dinlle a gweddill y tir mawr, lle saif hen Eglwys Llanfaglan yn Isgwyrfai ar y lan bellaf. Mae Afon Gwyrfai, Afon Carrog ac Afon Foryd yn ymarllwys i Afon Menai trwy'r Foryd. Ar un adeg bu ffordd ar draws y Foryd a ddefnyddid ar adegau o lanw isel, ac mae hon yn cael ei dangos ar hen fapiau, ond mae wedi hen ddiflannu. Ger ceg y Foryd mae harbwr bach Caer Belan sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan hwylwyr amser hamdden. Ar y lan gyferbyn ceir ardal a elwir yn Foryd Bach a chedwir ambell i gwch yno hefyd, er bod y Foryd mor fas fel rheol fel nad oes modd cyrraedd y Foryd Bach ond ar adegau o lanw uchel. Roedd yr harbwr bychan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dadlwytho calch yn y dyddiau gynt, pan oedd cychod gyda gwaelod fflat yn cario nwyddau i borthladdoedd a thraethau anghysbell ar arfordir gogledd Cymru. Er enghraifft, ym 1809, disgrifiwyd y Foryd fel "the Port of Voryd" mewn papur lleol, a dywedwyd yno fod calch a gwrtteithiau eraill yn cael eu mewnforio yno.[1] Dichon hefyd fod llechi'n cael eu hallforio o chwareli Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Cafwyd awgrym yn y 1820au y dylid adeiladu cangen o lein Rheilffordd Nantlle i'r Foryd, ac yn y 1860au cynnar, cafwyd cynllun ei gynnig a fyddai wedi gweld porthladd mwy sylweddol yno yn sgil dyfodiad Rheilffordd Sir Gaernarfon.

Ar lan orllewinol y Foryd, lle mae Afon Gwyrfai yn llifo i'r bae, ceir gweddillion sylweddol odyn galch y mae ei furiau'n sefyll yn uchel o hyd. Yn gysylltiedig â'r odyn ceir bwthyn (sef cartref ceidwad yr odyn mae'n debyg) - mae hwnnw bellach yn dŷ sydd wedi ei helaethu a'i foderneiddio. Defnyddwyd y calch i wella'r tir.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 28.12.1809, t.3