Tyddyn Parthle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Tyddyn Parthle''' ar y dde oddi ar y lôn gul sy'n mynd o gyrion Y Bontnewydd i gyfeiriad Cyffordd Tryfan ar Rheilffordd|Reilffordd Eryr...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Tyddyn Parthle''' ar y dde oddi ar y lôn gul sy'n mynd o gyrion [[Y Bontnewydd]] i gyfeiriad [[Cyffordd Tryfan]] ar [[Rheilffordd|Reilffordd Eryri]]. Mae'n enw sydd wedi achosi cryn benbleth. ''Tyddyn y Barty'' a gofnodwyd mewn ewyllys ym 1717, ond nid yw o fawr gymorth i ddatrys tarddiad yr enw. Fodd bynnag, ym 1759 (Casgliad Llanfair a Brynodol, LlGC) cofnodwyd ''Tyddyn Barkley'' - sy'n awgrymu'n bendant mai'r cyfenw ''Barkley/Barclay'' a geir yma. Mewn cofnodion dilynol ceir amrywiaeth helaeth o ffurfiau ar yr enw wrth i'r cyfenw Barkley neu Bartley fynd yn angof ac am gyfnod cafwyd y ffurf ddiystyr ''partle'' - ''Tyddyn Partle'' sydd yn y Rhestr Pennu'r Degwm ym 1839 ac yng Nghyfrifiad 1851. Daeth rhai i gredu mai gwall am ''parthle'' oedd ''partle'' - ac felly nodwyd ''Tyddyn-parthle'' ar fap Ordnans 1919 ac yng Nghyfeiriadur y Cod Post presennol. Eto ceir rhyw atgof gwan o ''Bartley'' yn y ''Tynbartle'' a nodwyd ar fap Ordnans 1959. Mae'n bur debyg mai ''Tyddyn Barkley'' oedd y ffurf wreiddiol fel yr awgrymir yn y cofnodion cynharaf. Pwy oedd y ''Barkley'' hwn tybed - un dirgelwch na ellir fyth ei ddatrys mae'n debyg. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.250-1</ref>
Saif '''Tyddyn Parthle''' ar y dde oddi ar y lôn gul sy'n mynd o gyrion [[Y Bontnewydd]] i gyfeiriad [[gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan]] ar [[Rheilffordd Eryri|Reilffordd Eryri]]. Mae'n enw sydd wedi achosi cryn benbleth. ''Tyddyn y Barty'' a gofnodwyd mewn ewyllys ym 1717, ond nid yw o fawr gymorth i ddatrys tarddiad yr enw. Fodd bynnag, ym 1759 (Casgliad Llanfair a Brynodol, LlGC) cofnodwyd ''Tyddyn Barkley'' - sy'n awgrymu'n bendant mai'r cyfenw ''Barkley/Barclay'' a geir yma. Mewn cofnodion dilynol ceir amrywiaeth helaeth o ffurfiau ar yr enw wrth i'r cyfenw Barkley neu Bartley fynd yn angof ac am gyfnod cafwyd y ffurf ddiystyr ''partle'' - ''Tyddyn Partle'' sydd yn y Rhestr Pennu'r Degwm ym 1839 ac yng Nghyfrifiad 1851. Daeth rhai i gredu mai gwall am ''parthle'' oedd ''partle'' - ac felly nodwyd ''Tyddyn-parthle'' ar fap Ordnans 1919 ac yng Nghyfeiriadur y Cod Post presennol. Eto ceir rhyw atgof gwan o ''Bartley'' yn y ''Tynbartle'' a nodwyd ar fap Ordnans 1959. Mae'n bur debyg mai ''Tyddyn Barkley'' oedd y ffurf wreiddiol fel yr awgrymir yn y cofnodion cynharaf. Pwy oedd y ''Barkley'' hwn tybed - un dirgelwch na ellir fyth ei ddatrys mae'n debyg. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.250-1</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:28, 16 Ebrill 2024

Saif Tyddyn Parthle ar y dde oddi ar y lôn gul sy'n mynd o gyrion Y Bontnewydd i gyfeiriad gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan ar Reilffordd Eryri. Mae'n enw sydd wedi achosi cryn benbleth. Tyddyn y Barty a gofnodwyd mewn ewyllys ym 1717, ond nid yw o fawr gymorth i ddatrys tarddiad yr enw. Fodd bynnag, ym 1759 (Casgliad Llanfair a Brynodol, LlGC) cofnodwyd Tyddyn Barkley - sy'n awgrymu'n bendant mai'r cyfenw Barkley/Barclay a geir yma. Mewn cofnodion dilynol ceir amrywiaeth helaeth o ffurfiau ar yr enw wrth i'r cyfenw Barkley neu Bartley fynd yn angof ac am gyfnod cafwyd y ffurf ddiystyr partle - Tyddyn Partle sydd yn y Rhestr Pennu'r Degwm ym 1839 ac yng Nghyfrifiad 1851. Daeth rhai i gredu mai gwall am parthle oedd partle - ac felly nodwyd Tyddyn-parthle ar fap Ordnans 1919 ac yng Nghyfeiriadur y Cod Post presennol. Eto ceir rhyw atgof gwan o Bartley yn y Tynbartle a nodwyd ar fap Ordnans 1959. Mae'n bur debyg mai Tyddyn Barkley oedd y ffurf wreiddiol fel yr awgrymir yn y cofnodion cynharaf. Pwy oedd y Barkley hwn tybed - un dirgelwch na ellir fyth ei ddatrys mae'n debyg. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.250-1