Plas Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Sionyn (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Plas Nantlle''' a elwir heddiw yn "Tŷ Mawr" hefyd wedi cael ei alw'n Blas yn Nantlle, Tŷ Mawr Nantlle neu hyd yn oed Nantlle yn ystod y saith ganrif ers iddo gael ei godi'n wreiddiol. Heddiw mae o'n un o'r plastai hynaf a mwyaf diddorol yn [[Uwchgwyrfai]] er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan ei fod yn parhau'n dŷ preifat ac yn gymharol ddi-nod o'r ffordd. Saif i'r chwith o'r ffordd B4418 wrth i honno droi i'r dde i gyfeiriad [[Drws-y-coed]] yng nghanol pentref [[Nantlle]]. Y Plas, yn wir, sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref, gan mai terasau o dai ar dir oedd yn eiddo i'r Plas yw'r rhan fwyaf o dai'r pentref, na ddaeth i fodolaeth tan ail hanner y 19g.
Mae '''Plas Nantlle''' a elwir heddiw yn "Tŷ Mawr" hefyd wedi cael ei alw'n Blas yn Nantlle, Tŷ Mawr Nantlle neu hyd yn oed Nantlle yn ystod y saith ganrif ers iddo gael ei godi'n wreiddiol. Heddiw mae o'n un o'r plastai hynaf a mwyaf diddorol yn [[Uwchgwyrfai]] er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan ei fod yn parhau'n dŷ preifat ac yn gymharol ddi-nod o'r ffordd. Saif i'r chwith o'r ffordd B4418 wrth i honno droi i'r dde i gyfeiriad [[Drws-y-coed]] yng nghanol pentref [[Nantlle|Nantlle (pentref)]]. Y Plas, yn wir, sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref, gan mai terasau o dai ar dir oedd yn eiddo i'r Plas yw'r rhan fwyaf o dai'r pentref, na ddaeth i fodolaeth tan ail hanner y 19g.


Mae enw Nantlle ei hun yn debygol o fod yn hŷn na'r tŷ cyntaf ar y safle, fel disgrifiad o'r ardal, sef Nant = Dyffryn (fel yn  enw Nant Gwytheyrn) ac wedyn Lleu, y ffigwr mytholegol - er mod rhai wedi ceisio ei ddehongli fel Nantllynnau, gan fod dau lyn yno.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'' (Caernarfon, 2011), tt.205-7</ref>
Mae enw Nantlle ei hun yn debygol o fod yn hŷn na'r tŷ cyntaf ar y safle, fel disgrifiad o'r ardal, sef Nant = Dyffryn (fel yn  enw Nant Gwytheyrn) ac wedyn Lleu, y ffigwr mytholegol - er fod rhai wedi ceisio ei ddehongli fel Nantllynnau, gan fod dau lyn yno.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'' (Caernarfon, 2011), tt.205-7</ref>


Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle [[Llys Baladeulyn]], a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion [[Ystrwyth ab Ednowain]], sef [[Tudur ap Goronwy]], am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle.
Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle [[Llys Baladeulyn]], a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion [[Ystrwyth ab Ednowain]], sef [[Tudur ap Goronwy]], am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle.


Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi  Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i [[Cilmyn Droed-ddu|Gilmyn Droed Ddu]], ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd [[Glynllifon]] wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle a thiroedd lle codwyd [[Plas Newydd]] sydd bellach o fewn [[Wal Glynllifon]]. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'',  adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref> ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno. Mae'r prif strwythur yn para hyd heddiw, er bod ychwanegiadau megis feranda yn rhai modern. Mae'r trefniadau y tu fewn wedi newid yn llwyr gyda pharedau newydd ac ym y blaen. Yr oedd yn dŷ deulawr o'r cychwyn, gyda grisiau cerrig yn codi wrth ochr aelwyd fawr yn y poen gogleddol. Mae tri phâr o gyplau gwreiddiol yn dal y to, sydd yn fodern.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.184. Nid yw'r llyfr hwn yn cydnabod pwysigrwydd nac arwyddocâd y safle na'r adeilad yn hanes y cwmwd.</ref>
Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi  Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i [[Cilmyn Droed-ddu|Gilmyn Droed Ddu]], ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd [[Glynllifon]] wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle a thiroedd lle codwyd [[Plas Newydd]] sydd bellach o fewn [[Wal Glynllifon]]. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'',  adroddiad gan Brosiect Ddendrocronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref> ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno. Mae'r prif strwythur yn para hyd heddiw, er bod ychwanegiadau megis feranda yn rhai modern. Mae'r trefniadau y tu fewn wedi newid yn llwyr gyda pharedau newydd ac ym y blaen. Yr oedd yn dŷ deulawr o'r cychwyn, gyda grisiau cerrig yn codi wrth ochr aelwyd fawr yn y poen gogleddol. Mae tri phâr o gyplau gwreiddiol yn dal y to, sydd yn fodern.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.184. Nid yw'r llyfr hwn yn cydnabod pwysigrwydd nac arwyddocâd y safle na'r adeilad yn hanes y cwmwd.</ref>


Roedd plant y genhedlaeth nesaf wedi mabwysiadu'r cyfenw Glyn neu Glynn, gyda Thomas Glynn, ysw., yn etifeddu'r ystad a'r tŷ ar ôl ei dad. Bu i rai o'r teulu'n byw ym Mhlas Nantlle o leiaf hyd nes i Henry Glynn o Nantlle farw ym 1672.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, XPE/24/1</ref> Yr oedd aelodau eraill o'r teulu, ac efallai y gangen bwysicaf, wedi bod yn byw ym Mhlas Newydd, tŷ mwy cyfleus ger i briffordd o Bwllheli i Gaearnarfon, ers bron i ganrif a Mae J. Dilwyn Williams yn awgrymu mai yma 1672 yr ymadawodd y teulu'n derfynnol fel annedd iddynt eu hunai, gan fod tenant o grefftwr yno, sef John ap Huw Robert, teiliwr, yn marw yn Mhlas Nantlle dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'',  adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.4 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref>
Roedd plant y genhedlaeth nesaf wedi mabwysiadu'r cyfenw Glyn neu Glynn, gyda Thomas Glynn, ysw., yn etifeddu'r ystad a'r tŷ ar ôl ei dad. Bu i rai o'r teulu'n byw ym Mhlas Nantlle o leiaf hyd nes i Henry Glynn o Nantlle farw ym 1672.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, XPE/24/1</ref> Yr oedd aelodau eraill o'r teulu, ac efallai y gangen bwysicaf, wedi bod yn byw ym Mhlas Newydd, tŷ mwy cyfleus ger i briffordd o Bwllheli i Gaearnarfon, ers bron i ganrif a Mae J. Dilwyn Williams yn awgrymu mai yma 1672 yr ymadawodd y teulu'n derfynnol fel annedd iddynt eu hunai, gan fod tenant o grefftwr yno, sef John ap Huw Robert, teiliwr, yn marw yn Mhlas Nantlle dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'',  adroddiad gan Brosiect Ddendrocronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.4 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref>


Ar wahân i gyfnod byr pan oedd Mrs Catherine Meyrick, etifeddes yr ystâd, o bosibl yn byw yno rywbryd rhwng 1693 a 1718, hanes o'r teulu yn gosod y tŷ i denantiaid sydd i Blas Nantlle. Perthynas o bell, Robert Griffith, bonheddwr, o Nantlle oedd y tenant cyyntaf, ond wedi iddo farw ym 1718, nid yw'n amlwg fod perthynas rhwng perchennog a thenant. Marwodd Catherine Meyrick ym 1723, ac aeth ei heiddo i berthynas, sef Ann Owen, Bodeon, Sir Fôn. Rywbryd cyn 1700, bu priodas rhwng Ann Owen, cyfnither John Glynn, a Syr Hugh Owen a olygodd y byddai Plas Nantlle'n mynd yn eiddo i deulu Owen o Orielton yn Sir Benfro - ond, sylwer, nid oedd y plas wedi colli cysylltiad yn llwyr â theulu Glynniaid Nantlle a Phlas Newydd.
Ar wahân i gyfnod byr pan oedd Mrs Catherine Meyrick, etifeddes yr ystâd, o bosibl yn byw yno rywbryd rhwng 1693 a 1718, hanes o'r teulu yn gosod y tŷ i denantiaid sydd i Blas Nantlle. Perthynas o bell, Robert Griffith, bonheddwr, o Nantlle oedd y tenant cyyntaf, ond wedi iddo farw ym 1718, nid yw'n amlwg fod perthynas rhwng perchennog a thenant. Marwodd Catherine Meyrick ym 1723, ac aeth ei heiddo i berthynas, sef Ann Owen, Bodeon, Sir Fôn. Rywbryd cyn 1700, bu priodas rhwng Ann Owen, cyfnither John Glynn, a Syr Hugh Owen a olygodd y byddai Plas Nantlle'n mynd yn eiddo i deulu Owen o Orielton yn Sir Benfro - ond, sylwer, nid oedd y plas wedi colli cysylltiad yn llwyr â theulu Glynniaid Nantlle a Phlas Newydd.


Pan farwodd Alice Griffith, gweddw Robert Griffith ym 1725, yn sicr tŷ ar rent oedd "Plas Nantlle alias Dol-y-felin", ynghyd â'r fferm sylweddol a [[Melin Nantlle]]. Mae John Dilwyn Williams wedi darganfod enwau nifer o'r preswylwyr:
Pan farwodd Alice Griffith, gweddw Robert Griffith ym 1725, gellir bod yn sicr mai tŷ ar rent oedd "Plas Nantlle alias Dol-y-felin" (ac weithiau "Plas Nantlle alias Tŷ-yn-y-nant"), ynghyd â'r fferm sylweddol a [[Melin Nantlle]]. Mae John Dilwyn Williams wedi darganfod enwau nifer o'r preswylwyr:
* 1735      Edward Owen
* 1735      Edward Owen
* 1740-41  Griffith Jones (marw 1741)
* 1740-41  Griffith Jones (marw 1741)
* 1769      Griffith William Abraham a'i wraig Ann Vaughan
* 1769      Griffith William Abraham a'i wraig Ann Vaughan
* 1770-71  Griffith Jones, nai Griffith Willam Abraham
* 1770-71  Griffith Jones, nai Griffith Willam Abraham
* 1771-74  Richard Hughes, ysw., o'r Penrhyn (prydles am 3 chenhedlaeth, ac felly'n denantiaeth fwy hir-dymor
* 1771-74  Richard Hughes, ysw., o'r Penrhyn (prydles am 3 chenhedlaeth, ac felly'n denantiaeth fwy hir-dymor)
* 1775-80  Hugh Hughes, ysw
* 1775-80  Hugh Hughes, ysw
* 1781-1807 Owen Humphrey, tenant i Hugh Hughes - roedd yn amlwg yn rhenti Nantlle fel buddsoddiad i'w renti eto oedd teulu Hughes
* 1781-1807 Owen Humphrey, tenant i Hugh Hughes - roedd yn amlwg yn rhenti Nantlle fel buddsoddiad i'w renti eto oedd teulu Hughes
* 1782-1805 Hugh Hughes yn brydleswr, hyd ei farwolaeth
* 1782-1805 Hugh Hughes yn brydleswr, hyd ei farwolaeth
* 1806-08    Philip James Hughes,ysw, mab Hugh Hughes
* 1806-08    Philip James Hughes,ysw, mab Hugh Hughes.


Ym 1808 daeth tro ar fyd yn hanes y Plas, pan werthwyd disgynyddion Tudur ap Goronwy, yr eiddo - bron union 450 mlynedd ar ôl i Dudur ei gael yn wobr am ei wasanaeth filwrol. Mae'n amlwg nad oedd y PLas mewn cyflwr da. Mae adroddiad gan Mr Hassall, yr arolygwr a gomisiynwyd i edrych dros yr eiddo, yn dangos llawer o ddiffygion, yn cynnwys y to.<ref>Archifdy Caernarfon, X/Poole/1988</ref> Gwerthwyd yr eiddo mewn ocsiwn i'r Parch. Edward Hughes, perchennog mwynglawdd Mynydd Parys ac erbyn hynny, sgweier ei ystâd ei hun a brynwyd ganddo, sef Parc Cinmel, sir y Fflint. Rhyw ddau fis cyn yr ocsiwn, roedd tenant olaf teulu Owen, sef Owen Humphrey wedi marw, ar ôl prynu [[Nancall]] ychydig yn gynt - gan ei fod, efallai,m wedi deallfod yr eiddo ar werth.


Arhosai Plas Nantlle yn nwylo teulu Hughes (a ddaeth yn Arglwyddi Dinorben ym 1831). Rhwng 1808 ac 1830, David Evans oedd y tenant, a'r eiddo i gyd yn ymestyn dros ryw 260 o erwau. Rhwng 1830 ac 1839, Griffith Hughes oedd yn ffermio'r eiddo ac, mae'n debyg, yn byw yn y Plas - amaethwr olaf hen fferm y Plas i fyw yno, gan fod y tŷ wedyn yn tueddu fod yn gartref i reolwyr un o'r chwareli neu chwarelwyr mwy distadl. Yn y cyfamser, roedd rhan o leiaf o dir Plas Nantlle wedi cael ei brydlesu i [[William Turner]] tua 1816, ac o hynny allan defnyddiwyd mwy a mwy o'r tir at ddiben chwarelu. Yn y man, codwyd [[Plas Baladeulyn]] ar dir Plas Nantlle, ac yn y fan honno yr oedd y ffarmwr yn byw. Defnyddiwyd yr enw "Tŷ Mawr" yn y cyfrifiad am y tro cyntaf ym 1881. Erbyn hynny, roedd pentref wedi dechrau ymffurfio ar dir y Plas, a mabwysiadwyd yr enw "Nantlle" ar gyfer y pentref newydd hwnnw.
Parhaodd cyfres o reolwyr chwarel i fyw yn y Plas, a oedd wedi'i brydlesu i Cwmni Pen-yr-orsedd ers 1863, tan rywbryd tua 1958. Wedyn, rhentiwyd yn Plas, neu "Tŷ Mawr" fel y gelwid erbyn hynny i William Thomas a ffermiodd yr 20 acer oedd ar ôl o'r fferm wreiddiol yn ogystal â gweithio fel labrwr yn y chwarel. ym 1963, symudodd Mr a Mrs Nottingham o Flaenau Ffestiniog, gan rentu'r tŷ gan gwmni Pen-yr-orsedd, ac ym 1970 mi ddaru iddynt brynu'r tŷ gan Ystâd Cinmel, gan fyw yno tan tua 1994, pan brynwyd y tŷ gan Dr. Crabtree.<ref>Sylfaen yr erthygl yma yn ei ffurf gychwynnol yw ymchwil John Dilwyn Williams, a gyhoeddwyd yn: J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'',  adroddiad gan Brosiect Ddendrocronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012</ref>
===Darganfyddiad archaeolegol===
Yn y flwyddyn 1826 yn agos i'r Hen Dŷ Mawr cafwyd dau fathodyn neu 'coin' o aur, ac ar un ochr iddynt roedd argraffiad o ddelw Iorwerth 1af yn eistedd mewn llong, a chleddyf yn ei law ac o'i amgylch yn argraffedig mewn hen lythrennau Lladin' EDWARD, DEI, GRA, REX ANGL, DAS HYB DAQUI'. Ar yr ochr arall roedd argraffiad o bedwar llew a phedair coron gyda'r geiriau canlynol 'ipse, aniem, Transienu, per, medium, morwm ibat'. Dichon bod y rhain yn adlewyrchu hanes dyddiau cynharaf y safle wedi i'r Saeson feddiannu Llys Baladeulyn.<ref>Thomas Alun Williams, "Yr Hen Tŷ Mawr", ''Baladeulyn Ddoe a Heddiw'', cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]  </ref>




Llinell 29: Llinell 37:
[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Tai nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:24, 3 Chwefror 2024

Mae Plas Nantlle a elwir heddiw yn "Tŷ Mawr" hefyd wedi cael ei alw'n Blas yn Nantlle, Tŷ Mawr Nantlle neu hyd yn oed Nantlle yn ystod y saith ganrif ers iddo gael ei godi'n wreiddiol. Heddiw mae o'n un o'r plastai hynaf a mwyaf diddorol yn Uwchgwyrfai er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan ei fod yn parhau'n dŷ preifat ac yn gymharol ddi-nod o'r ffordd. Saif i'r chwith o'r ffordd B4418 wrth i honno droi i'r dde i gyfeiriad Drws-y-coed yng nghanol pentref Nantlle (pentref). Y Plas, yn wir, sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref, gan mai terasau o dai ar dir oedd yn eiddo i'r Plas yw'r rhan fwyaf o dai'r pentref, na ddaeth i fodolaeth tan ail hanner y 19g.

Mae enw Nantlle ei hun yn debygol o fod yn hŷn na'r tŷ cyntaf ar y safle, fel disgrifiad o'r ardal, sef Nant = Dyffryn (fel yn enw Nant Gwytheyrn) ac wedyn Lleu, y ffigwr mytholegol - er fod rhai wedi ceisio ei ddehongli fel Nantllynnau, gan fod dau lyn yno.[1]

Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle Llys Baladeulyn, a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o Ddyffryn Nantlle, yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd Chwarel Pen-yr-orsedd ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion Ystrwyth ab Ednowain, sef Tudur ap Goronwy, am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle.

Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i Gilmyn Droed Ddu, ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd Glynllifon wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle a thiroedd lle codwyd Plas Newydd sydd bellach o fewn Wal Glynllifon. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,[2] ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno. Mae'r prif strwythur yn para hyd heddiw, er bod ychwanegiadau megis feranda yn rhai modern. Mae'r trefniadau y tu fewn wedi newid yn llwyr gyda pharedau newydd ac ym y blaen. Yr oedd yn dŷ deulawr o'r cychwyn, gyda grisiau cerrig yn codi wrth ochr aelwyd fawr yn y poen gogleddol. Mae tri phâr o gyplau gwreiddiol yn dal y to, sydd yn fodern.[3]

Roedd plant y genhedlaeth nesaf wedi mabwysiadu'r cyfenw Glyn neu Glynn, gyda Thomas Glynn, ysw., yn etifeddu'r ystad a'r tŷ ar ôl ei dad. Bu i rai o'r teulu'n byw ym Mhlas Nantlle o leiaf hyd nes i Henry Glynn o Nantlle farw ym 1672.[4] Yr oedd aelodau eraill o'r teulu, ac efallai y gangen bwysicaf, wedi bod yn byw ym Mhlas Newydd, tŷ mwy cyfleus ger i briffordd o Bwllheli i Gaearnarfon, ers bron i ganrif a Mae J. Dilwyn Williams yn awgrymu mai yma 1672 yr ymadawodd y teulu'n derfynnol fel annedd iddynt eu hunai, gan fod tenant o grefftwr yno, sef John ap Huw Robert, teiliwr, yn marw yn Mhlas Nantlle dair blynedd yn ddiweddarach.[5]

Ar wahân i gyfnod byr pan oedd Mrs Catherine Meyrick, etifeddes yr ystâd, o bosibl yn byw yno rywbryd rhwng 1693 a 1718, hanes o'r teulu yn gosod y tŷ i denantiaid sydd i Blas Nantlle. Perthynas o bell, Robert Griffith, bonheddwr, o Nantlle oedd y tenant cyyntaf, ond wedi iddo farw ym 1718, nid yw'n amlwg fod perthynas rhwng perchennog a thenant. Marwodd Catherine Meyrick ym 1723, ac aeth ei heiddo i berthynas, sef Ann Owen, Bodeon, Sir Fôn. Rywbryd cyn 1700, bu priodas rhwng Ann Owen, cyfnither John Glynn, a Syr Hugh Owen a olygodd y byddai Plas Nantlle'n mynd yn eiddo i deulu Owen o Orielton yn Sir Benfro - ond, sylwer, nid oedd y plas wedi colli cysylltiad yn llwyr â theulu Glynniaid Nantlle a Phlas Newydd.

Pan farwodd Alice Griffith, gweddw Robert Griffith ym 1725, gellir bod yn sicr mai tŷ ar rent oedd "Plas Nantlle alias Dol-y-felin" (ac weithiau "Plas Nantlle alias Tŷ-yn-y-nant"), ynghyd â'r fferm sylweddol a Melin Nantlle. Mae John Dilwyn Williams wedi darganfod enwau nifer o'r preswylwyr:

  • 1735 Edward Owen
  • 1740-41 Griffith Jones (marw 1741)
  • 1769 Griffith William Abraham a'i wraig Ann Vaughan
  • 1770-71 Griffith Jones, nai Griffith Willam Abraham
  • 1771-74 Richard Hughes, ysw., o'r Penrhyn (prydles am 3 chenhedlaeth, ac felly'n denantiaeth fwy hir-dymor)
  • 1775-80 Hugh Hughes, ysw
  • 1781-1807 Owen Humphrey, tenant i Hugh Hughes - roedd yn amlwg yn rhenti Nantlle fel buddsoddiad i'w renti eto oedd teulu Hughes
  • 1782-1805 Hugh Hughes yn brydleswr, hyd ei farwolaeth
  • 1806-08 Philip James Hughes,ysw, mab Hugh Hughes.

Ym 1808 daeth tro ar fyd yn hanes y Plas, pan werthwyd disgynyddion Tudur ap Goronwy, yr eiddo - bron union 450 mlynedd ar ôl i Dudur ei gael yn wobr am ei wasanaeth filwrol. Mae'n amlwg nad oedd y PLas mewn cyflwr da. Mae adroddiad gan Mr Hassall, yr arolygwr a gomisiynwyd i edrych dros yr eiddo, yn dangos llawer o ddiffygion, yn cynnwys y to.[6] Gwerthwyd yr eiddo mewn ocsiwn i'r Parch. Edward Hughes, perchennog mwynglawdd Mynydd Parys ac erbyn hynny, sgweier ei ystâd ei hun a brynwyd ganddo, sef Parc Cinmel, sir y Fflint. Rhyw ddau fis cyn yr ocsiwn, roedd tenant olaf teulu Owen, sef Owen Humphrey wedi marw, ar ôl prynu Nancall ychydig yn gynt - gan ei fod, efallai,m wedi deallfod yr eiddo ar werth.

Arhosai Plas Nantlle yn nwylo teulu Hughes (a ddaeth yn Arglwyddi Dinorben ym 1831). Rhwng 1808 ac 1830, David Evans oedd y tenant, a'r eiddo i gyd yn ymestyn dros ryw 260 o erwau. Rhwng 1830 ac 1839, Griffith Hughes oedd yn ffermio'r eiddo ac, mae'n debyg, yn byw yn y Plas - amaethwr olaf hen fferm y Plas i fyw yno, gan fod y tŷ wedyn yn tueddu fod yn gartref i reolwyr un o'r chwareli neu chwarelwyr mwy distadl. Yn y cyfamser, roedd rhan o leiaf o dir Plas Nantlle wedi cael ei brydlesu i William Turner tua 1816, ac o hynny allan defnyddiwyd mwy a mwy o'r tir at ddiben chwarelu. Yn y man, codwyd Plas Baladeulyn ar dir Plas Nantlle, ac yn y fan honno yr oedd y ffarmwr yn byw. Defnyddiwyd yr enw "Tŷ Mawr" yn y cyfrifiad am y tro cyntaf ym 1881. Erbyn hynny, roedd pentref wedi dechrau ymffurfio ar dir y Plas, a mabwysiadwyd yr enw "Nantlle" ar gyfer y pentref newydd hwnnw.

Parhaodd cyfres o reolwyr chwarel i fyw yn y Plas, a oedd wedi'i brydlesu i Cwmni Pen-yr-orsedd ers 1863, tan rywbryd tua 1958. Wedyn, rhentiwyd yn Plas, neu "Tŷ Mawr" fel y gelwid erbyn hynny i William Thomas a ffermiodd yr 20 acer oedd ar ôl o'r fferm wreiddiol yn ogystal â gweithio fel labrwr yn y chwarel. ym 1963, symudodd Mr a Mrs Nottingham o Flaenau Ffestiniog, gan rentu'r tŷ gan gwmni Pen-yr-orsedd, ac ym 1970 mi ddaru iddynt brynu'r tŷ gan Ystâd Cinmel, gan fyw yno tan tua 1994, pan brynwyd y tŷ gan Dr. Crabtree.[7]

Darganfyddiad archaeolegol

Yn y flwyddyn 1826 yn agos i'r Hen Dŷ Mawr cafwyd dau fathodyn neu 'coin' o aur, ac ar un ochr iddynt roedd argraffiad o ddelw Iorwerth 1af yn eistedd mewn llong, a chleddyf yn ei law ac o'i amgylch yn argraffedig mewn hen lythrennau Lladin' EDWARD, DEI, GRA, REX ANGL, DAS HYB DAQUI'. Ar yr ochr arall roedd argraffiad o bedwar llew a phedair coron gyda'r geiriau canlynol 'ipse, aniem, Transienu, per, medium, morwm ibat'. Dichon bod y rhain yn adlewyrchu hanes dyddiau cynharaf y safle wedi i'r Saeson feddiannu Llys Baladeulyn.[8]


Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.205-7
  2. J. Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, adroddiad gan Brosiect Ddendrocronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [1]
  3. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.184. Nid yw'r llyfr hwn yn cydnabod pwysigrwydd nac arwyddocâd y safle na'r adeilad yn hanes y cwmwd.
  4. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, XPE/24/1
  5. J. Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, adroddiad gan Brosiect Ddendrocronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.4 [2]
  6. Archifdy Caernarfon, X/Poole/1988
  7. Sylfaen yr erthygl yma yn ei ffurf gychwynnol yw ymchwil John Dilwyn Williams, a gyhoeddwyd yn: J. Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, adroddiad gan Brosiect Ddendrocronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012
  8. Thomas Alun Williams, "Yr Hen Tŷ Mawr", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [3]