Plas Baladeulyn
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Plas Baladeulyn yw'r tŷ mwyaf ym mhentref Nantlle. Saif ger Pont Baladeulyn ar lan Llyn Nantlle Uchaf. Plasty un o berchnogion chwarel amlycaf Dyffryn Nantlle ydoedd, sef W.A. Darbishire, perchennog Chwarel Pen-yr-orsedd.
Yn y 1980au, crëwyd Canolfan Gelfyddydau Richard Wilson yn yr adeilad. Ar ôl i honno gau, fe gymerodd cwmni nid-er-elw Trigonos yr adeilad. Mae bellach yn ganolfan gynadledda a man encilio, gyda phwyslais ar fwyd llysieuol a fegan.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma