Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 4 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw '''Y Groeslon'''. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf [[Llandwrog]] o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn croesi'r ffordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Roedd yn fan gyfleus ar gyfer [[Efail y Groeslon|efail]], a chofnodir claddedigaeth Jane Morris, gwraig Owen Parry, gof o "Groes-lon Grugan", 4 Mawrth 1801. Roedd Owen Parry ei hun yn dal yn yr efail tan oi leiaf 1809. Rhaid bod digonedd o waith yn y cylch i ofaint, gan fod gofaint yn gweithio hefyd rywle yn [[Rhosnenan]] yr un pryd.<ref>Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1801-9</ref> Grugan oedd enw'r ffermydd o gwmpas y groesffordd.
 


==Daeareg a nodweddion ffisegol==
==Daeareg a nodweddion ffisegol==
Llinell 5: Llinell 5:


==Hanes cynnar y pentref==
==Hanes cynnar y pentref==
Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel ([[Capel Brynrodyn (MC)]]) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y [[Dolydd]], yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a [[Llwyn-y-gwalch]]. Cododd stori werin mai ffermwr cefnog a rannai ei dir ymysg ei feibion oedd yn gyfrifol am nifer o'r enwau hyn - gan iddo adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog [[Rhosnenan]] (lle mae ystadau Cae Sarn, Y Garreg a'r [[Ysgol Y Groeslon|ysgol]] erbyn heddiw, a'r tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon).
Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw '''Y Groeslon'''. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf [[Llandwrog]] o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn croesi'r ffordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Grugan Ddu, Grugan Wen a Grugan Ganol oedd enw'r ffermydd o gwmpas y groesffordd, a "Groeslon-grugan" yn enw naturiol ar y groesffordd sydd yno ac ar dŷ a godwyd yno.
 
Roedd yn fan gyfleus ar gyfer [[Gefail y Groeslon|gefail]], a chofnodir claddedigaeth Jane Morris, gwraig Owen Parry, gof o "Groes-lon Grugan", 4 Mawrth 1801. Roedd Owen Parry ei hun yn dal yn yr efail tan oi leiaf 1809. 'Roedd Owen a Jane yn rieni'r Parch. [[John Parry]], Caer, gweinidog cynnar y Methodistiaid Calfinaidd, golygydd ac athro yng Ngholeg y Bala.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t. 692</ref> Rhaid bod digonedd o waith i ofaint yn y cylch , gan fod gofaint yn gweithio hefyd rywle yn [[Rhosnenan]] yr un pryd.<ref>Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1801-9</ref>
 
Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel ([[Capel Brynrodyn (MC)]]) - yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley - hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y [[Dolydd]]. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: [[Y Grugan]], Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a [[Llwyn-y-gwalch]]. Cafodd stori werinol ei dyfeisio i esbonio rhai o'r enwau hyn: sef bod ffermwr cefnog gyda phedwar mab wedi rhannu ei dir ymysg ei feibion - gan adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Clywir y ffug-esboniad hwn yn y pentref hyd heddiw. Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog [[Rhosnenan]] (lle mae ystadau Cae Sarn, Y Garreg a'r [[Ysgol Y Groeslon|ysgol]] erbyn heddiw, ac ar y tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon).
 
Datbygodd y pentref wedi i'r rheilffordd gyrraedd a sefydlu gorsaf wrth y groesffordd: [[Rheilffordd Nantlle]] i ddechrau, ac wedyn [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]]. Bu twf sylweddol wedi i hen fferm Grugan Wen gael ei werthu ym 1880. Roedd rhai tai wedi eu codi eisoes ar dir y fferm, ond roedd nifer sylweddol o lleiniau adeiladu ar gael hefyd. Gweler yr hysbyseb am yr arwerthiant isod<ref>''North Wales Express'', 2.4.1880, t.6</ref>
[[Delwedd:Gwerthiant y Grugan1.png|bawd|chwith|400px|Hysbyseb am arwerthiant 1880]] [[Delwedd:Gwerthiant y Grugan2.png|bawd|canol|400px]]
 
 
 
 
 
 
 
 


==Crefydd==
==Crefydd==
Roedd nifer o addoldai yn y pentref. Gweler dan eu henwau am erthyglau llawn amdanynt.
Roedd nifer o addoldai yn y pentref. Gweler erthyglau dan eu henwau am fanylion llawn.


Y cyntaf i'w agor efallai oedd [[Capel Bryn'rodyn (MC)]].
Y cyntaf i'w agor efallai oedd [[Capel Bryn'rodyn (MC)]].
Llinell 20: Llinell 35:
Gwerthwyd Capel Gosen yn ystod 2018, gan fod yr adeilad wedi bod yn anniogel ers rhai blynyddoedd. Bellach, mae cynulleidfa'r Annibynwyr yn y pentref yn cwrdd yn y Neuadd Goffa, a dyma'r unig 'gapel' sydd yn dal ar agor yn y pentref.
Gwerthwyd Capel Gosen yn ystod 2018, gan fod yr adeilad wedi bod yn anniogel ers rhai blynyddoedd. Bellach, mae cynulleidfa'r Annibynwyr yn y pentref yn cwrdd yn y Neuadd Goffa, a dyma'r unig 'gapel' sydd yn dal ar agor yn y pentref.


Roedd eglwys ar gyfer rhannau uchaf plwyf [[Llandwrog]], [[Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon]], wedi ei godi ym 1852-3 ger fferm Cefn-nen. Er bod mynwent ynd al yno, chwalwyd yr eglwys ar ôl ei chau. Codwyd ficerdy ger Tal-y-llyn. Roedd neuadd gwrdd, Ystafell yr Eglwys, a oedd gynt yn adeilad yr Annibynwyr, "Gosen Bach", wrth drofa ger Tal-y-llyn. Mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel siop ddillad priodas a depo nwy.
Roedd yna eglwys ar gyfer rhannau uchaf plwyf [[Llandwrog]], [[Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon]], a oedd wedi ei hadeiladu ym 1852-3 ger fferm Cefn-nen. Er bod mynwent yn dal yno, chwalwyd yr eglwys ar ôl ei chau. Codwyd ficerdy ger Tal-y-llyn. Roedd neuadd gwrdd, Ystafell yr Eglwys, a oedd gynt yn adeilad yr Annibynwyr, "Gosen Bach", wrth drofa ger Tal-y-llyn. Mae'r adeilad hwn bellach yn cael ei ddefnyddio fel siop ddillad priodas a depo nwy.


==Masnach a busnes==
==Masnach a busnes==
Pan agorodd [[Rheilffordd Nantlle]] arhosfan wrth y groesffordd ym 1856, dechreuodd y pentref modern dyfu oddi amgylch yr orsaf ac i fyny'r allt, a chynyddai'r tyfu wedi i'r rheilffordd fawr ddod gan agor yr [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf]] ym 1867. Yn fuan wedyn daeth y Groeslon yn gyrchfan i bobl y plwyf i gyd oedd am ddal tren neu ddanfon neu gasglu nwyddau a gludid ar y lein. Am flynyddoedd hyd at 1905, dynodwyd y Groeslon yn "R.S.O.", sef ''railway sub office'' neu fan i ble cyrchid eitemau post gan y rheilffordd yn uniongyrchol heb iddynt gael eu didoli', gyntaf gan y prif swyddfa leol (Caernarfon). Byddai'r is-swyddfa reilffordd leol wedyn eu didoli a'u hanfon allan, a gwelir "Groeslon RSO" yn aml ar hen amlenni a chardiau post.<ref>http://gbstamp.co.uk/article/gb-railway-sub-offices-and-postmarks-421.html. Cyrchwyd 29.12.2017.</ref>
Pan agorodd [[Rheilffordd Nantlle]] arhosfan wrth y groesffordd ym 1856, dechreuodd y pentref modern dyfu oddi amgylch yr orsaf ac i fyny'r allt, a chynyddai'r tyfu wedi i'r rheilffordd fawr ddod gan agor yr [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf]] ym 1867. Yn fuan wedyn daeth y Groeslon yn gyrchfan i bobl y plwyf i gyd oedd am ddal tren neu ddanfon neu gasglu nwyddau a gludid ar y lein. Am flynyddoedd hyd at 1905, dynodwyd y Groeslon yn "R.S.O.", sef ''railway sub office'' neu fan i ble cyrchid eitemau post gan y rheilffordd yn uniongyrchol heb iddynt gael eu didoli'n gyntaf gan y prif swyddfa leol (Caernarfon). Byddai'r is-swyddfa reilffordd leol wedyn yn eu didoli a'u hanfon allan, a gwelir "Groeslon RSO" yn aml ar hen amlenni a chardiau post.<ref>http://gbstamp.co.uk/article/gb-railway-sub-offices-and-postmarks-421.html. Cyrchwyd 29.12.2017.</ref>


Tyfodd rôl fasnachol y pentref ymhellach gyda dwy dafarn o bobtu'r lôn a arweiniai dros grosin y rheilffordd, sef Y Grugan Arms (sydd bellach wedi ei dymchwel) a'r Llanfair Arms, a agorwyd ym 1841 ac a enwyd ar ôl tirfeddiannwyr y safle ger y rheilffordd, sef Ystad Llanfair-isgaer, ond sy'n cael ei hadnabod ar dafod lleferydd fel [[Tafarn Pen Nionyn|y Pen Nionyn]],  Dywedir fod Groeslon House wedi bod yn dafarn hefyd ar un adeg.
Tyfodd rôl fasnachol y pentref ymhellach gyda dwy dafarn o bobtu'r lôn a arweiniai dros groesfan y rheilffordd, sef [[Tafarn Grugan Arms]] (sydd bellach wedi ei dymchwel) a'r Llanfair Arms, a agorwyd ym 1841 ac a enwyd ar ôl tirfeddiannwyr y safle ger y rheilffordd, sef Ystad Llanfair-isgaer, ond sy'n cael ei hadnabod ar dafod lleferydd fel [[Tafarn Pen Nionyn|y Pen Nionyn]],  Dywedir fod Groeslon House wedi bod yn dafarn hefyd ar un adeg.


Roedd yno swyddfa bost a siopau - rhyw 26 ohonynt yn ôl y sôn, gan gynnwys barbwr a dwy fecws. Mor diweddar â'r 1980au, roedd siop ddillad, siop drin gwallt, ail siop nwyddau cyffredinol a siop ffrwythau a llysiau yn dal i fynd. Fe gaeodd swyddfa bost a siop olaf y pentref yn 2014 (er i siop a swyddfa bost newydd agor yn y [[Dolydd]] tua'r un pryd).<ref>Wenna Williams (gol.) ''Hanes y Groeslon'', tt.63-73.</ref>
Roedd yno swyddfa bost a siopau - rhyw 26 ohonynt yn ôl y sôn, gan gynnwys barbwr a dwy fecws. Mor ddiweddar â'r 1980au, roedd siop ddillad, siop drin gwallt, ail siop nwyddau cyffredinol a siop ffrwythau a llysiau yn dal yn agored. Fe gaeodd swyddfa bost a siop olaf y pentref yn 2014 (er i siop a swyddfa bost newydd agor yn y [[Dolydd]] tua'r un pryd).<ref>Wenna Williams (gol.) ''Hanes y Groeslon'', tt.63-73.</ref>


Mae erthygl sylweddol ar [[Siopau'r Groeslon]] hefyd ar gael ar y Cof, sydd yn rhoi llawer mwy o fanylion.
Mae erthygl sylweddol ar [[Siopau'r Groeslon]] hefyd ar gael ar y Cof, sydd yn rhoi llawer mwy o fanylion.


Roedd y pentref a'r ardal hefyd yn gartref i nifer o fusnesau a fyddai'n cwrdd ag anghenion yr ardal, yn wasanaethau ac yn fân weithfeydd gwaithgynhyrchu. Dyma restr o'r busnesau a fu'n weithgar am gyfnod o leiaf ers 1900<ref>Gwybodaeth leol wedi ei chywain gan Mrs Mari Vaughan Jones</ref>:
Roedd y pentref a'r ardal hefyd yn gartref i nifer o fusnesau a fyddai'n cwrdd ag anghenion yr ardal, yn wasanaethau ac yn fân weithfeydd gwaithgynhyrchu. Dyma restr o'r busnesau a fu'n weithgar (am gyfnod o leiaf) ers 1900<ref>Gwybodaeth leol wedi ei chywain gan Mrs Mari Vaughan Jones</ref>:


* Gweithdy adeiladydd yn Rhes Glynllifon.
* Gweithdy adeiladydd yn Rhes Glynllifon.
* Y Becws, a fu wedyn yn weithdy teiliwr ac yn weithdy gwneud hetiau cyn troi'n ôl yn fecws.
* Y Becws, a fu wedyn yn weithdy teiliwr ac yn weithdy gwneud hetiau cyn troi'n ôl yn fecws.
* Gorsaf betrol, modurdy a gefail gan Owen parry, wrth ochr [[Tafarn y Llanfair Arms]] lle buodd yn dafarnwr.
* Gorsaf betrol, modurdy a gefail gan Owen Parry, wrth ochr [[Tafarn y Llanfair Arms]] lle buodd yn dafarnwr.
* Lladd-dy yn Lleiniau.
* Lladd-dy yn Lleiniau.
* Lladd-dy yn Nolnennan.
* Lladd-dy yn Nolnennan.
Llinell 47: Llinell 62:
* Gefail yn y Garreg Fawr.
* Gefail yn y Garreg Fawr.
* Gof arian yn Rhoslan.
* Gof arian yn Rhoslan.
* Iard lo, sydd bellach hefyd yn gwerthu hen bethau pensaernïol a defnyddiau adeiladu wedi'u hadfeddiannu.
* Iard lo, a fu hefyd yn gwerthu hen bethau pensaernïol a defnyddiau adeiladu wedi'u hadfeddiannu.
* Gweithdy seiri coed a seiri maen yn Nhŷ Popty.
* Gweithdy seiri coed a seiri maen yn Nhŷ Popty.
* Gweithdy saer coed (D.J. Roberts) yn Gladstone House.
* Gweithdy saer coed (D.J. Roberts) yn Gladstone House.
Llinell 55: Llinell 70:


==Enwogion y pentref==
==Enwogion y pentref==
* [[Tom Huws]], prifardd
* [[Tom Huws]], prifardd
* [[John Gwilym Jones]], dramodydd a darlithydd
* [[John Gwilym Jones]], dramodydd a darlithydd
* [[Brian Owen]], adroddwr arobryn
* [[Brian Owen]], adroddwr arobryn
* Y Parch. [[John Parry]], Caer, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a golygydd cylchgronau
* [[John Roberts]], trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol
* [[John Roberts]], trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol
* [[Morris T. Williams]], argraffydd
* [[Morris T. Williams]], argraffydd
{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:51, 30 Hydref 2023


Daeareg a nodweddion ffisegol

Gweler erthygl ar wahân ar Daeareg ardal y Groeslon.

Hanes cynnar y pentref

Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw Y Groeslon. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf Llandwrog o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn croesi'r ffordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Grugan Ddu, Grugan Wen a Grugan Ganol oedd enw'r ffermydd o gwmpas y groesffordd, a "Groeslon-grugan" yn enw naturiol ar y groesffordd sydd yno ac ar dŷ a godwyd yno.

Roedd yn fan gyfleus ar gyfer gefail, a chofnodir claddedigaeth Jane Morris, gwraig Owen Parry, gof o "Groes-lon Grugan", 4 Mawrth 1801. Roedd Owen Parry ei hun yn dal yn yr efail tan oi leiaf 1809. 'Roedd Owen a Jane yn rieni'r Parch. John Parry, Caer, gweinidog cynnar y Methodistiaid Calfinaidd, golygydd ac athro yng Ngholeg y Bala.[1] Rhaid bod digonedd o waith i ofaint yn y cylch , gan fod gofaint yn gweithio hefyd rywle yn Rhosnenan yr un pryd.[2]

Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel (Capel Brynrodyn (MC)) - yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley - hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y Dolydd. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a Llwyn-y-gwalch. Cafodd stori werinol ei dyfeisio i esbonio rhai o'r enwau hyn: sef bod ffermwr cefnog gyda phedwar mab wedi rhannu ei dir ymysg ei feibion - gan adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Clywir y ffug-esboniad hwn yn y pentref hyd heddiw. Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog Rhosnenan (lle mae ystadau Cae Sarn, Y Garreg a'r ysgol erbyn heddiw, ac ar y tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon).

Datbygodd y pentref wedi i'r rheilffordd gyrraedd a sefydlu gorsaf wrth y groesffordd: Rheilffordd Nantlle i ddechrau, ac wedyn Rheilffordd Sir Gaernarfon. Bu twf sylweddol wedi i hen fferm Grugan Wen gael ei werthu ym 1880. Roedd rhai tai wedi eu codi eisoes ar dir y fferm, ond roedd nifer sylweddol o lleiniau adeiladu ar gael hefyd. Gweler yr hysbyseb am yr arwerthiant isod[3]

Hysbyseb am arwerthiant 1880





Crefydd

Roedd nifer o addoldai yn y pentref. Gweler erthyglau dan eu henwau am fanylion llawn.

Y cyntaf i'w agor efallai oedd Capel Bryn'rodyn (MC). Y capeli eraill eraill oedd:

Unwyd capeli Brynrhos a Bryn'rodyn dan enw Capel y Bryn tua 2007, ond fe gaewyd yr achos ym mis Gorffennaf 2018.

Gwerthwyd Capel Gosen yn ystod 2018, gan fod yr adeilad wedi bod yn anniogel ers rhai blynyddoedd. Bellach, mae cynulleidfa'r Annibynwyr yn y pentref yn cwrdd yn y Neuadd Goffa, a dyma'r unig 'gapel' sydd yn dal ar agor yn y pentref.

Roedd yna eglwys ar gyfer rhannau uchaf plwyf Llandwrog, Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon, a oedd wedi ei hadeiladu ym 1852-3 ger fferm Cefn-nen. Er bod mynwent yn dal yno, chwalwyd yr eglwys ar ôl ei chau. Codwyd ficerdy ger Tal-y-llyn. Roedd neuadd gwrdd, Ystafell yr Eglwys, a oedd gynt yn adeilad yr Annibynwyr, "Gosen Bach", wrth drofa ger Tal-y-llyn. Mae'r adeilad hwn bellach yn cael ei ddefnyddio fel siop ddillad priodas a depo nwy.

Masnach a busnes

Pan agorodd Rheilffordd Nantlle arhosfan wrth y groesffordd ym 1856, dechreuodd y pentref modern dyfu oddi amgylch yr orsaf ac i fyny'r allt, a chynyddai'r tyfu wedi i'r rheilffordd fawr ddod gan agor yr orsaf ym 1867. Yn fuan wedyn daeth y Groeslon yn gyrchfan i bobl y plwyf i gyd oedd am ddal tren neu ddanfon neu gasglu nwyddau a gludid ar y lein. Am flynyddoedd hyd at 1905, dynodwyd y Groeslon yn "R.S.O.", sef railway sub office neu fan i ble cyrchid eitemau post gan y rheilffordd yn uniongyrchol heb iddynt gael eu didoli'n gyntaf gan y prif swyddfa leol (Caernarfon). Byddai'r is-swyddfa reilffordd leol wedyn yn eu didoli a'u hanfon allan, a gwelir "Groeslon RSO" yn aml ar hen amlenni a chardiau post.[4]

Tyfodd rôl fasnachol y pentref ymhellach gyda dwy dafarn o bobtu'r lôn a arweiniai dros groesfan y rheilffordd, sef Tafarn Grugan Arms (sydd bellach wedi ei dymchwel) a'r Llanfair Arms, a agorwyd ym 1841 ac a enwyd ar ôl tirfeddiannwyr y safle ger y rheilffordd, sef Ystad Llanfair-isgaer, ond sy'n cael ei hadnabod ar dafod lleferydd fel y Pen Nionyn, Dywedir fod Groeslon House wedi bod yn dafarn hefyd ar un adeg.

Roedd yno swyddfa bost a siopau - rhyw 26 ohonynt yn ôl y sôn, gan gynnwys barbwr a dwy fecws. Mor ddiweddar â'r 1980au, roedd siop ddillad, siop drin gwallt, ail siop nwyddau cyffredinol a siop ffrwythau a llysiau yn dal yn agored. Fe gaeodd swyddfa bost a siop olaf y pentref yn 2014 (er i siop a swyddfa bost newydd agor yn y Dolydd tua'r un pryd).[5]

Mae erthygl sylweddol ar Siopau'r Groeslon hefyd ar gael ar y Cof, sydd yn rhoi llawer mwy o fanylion.

Roedd y pentref a'r ardal hefyd yn gartref i nifer o fusnesau a fyddai'n cwrdd ag anghenion yr ardal, yn wasanaethau ac yn fân weithfeydd gwaithgynhyrchu. Dyma restr o'r busnesau a fu'n weithgar (am gyfnod o leiaf) ers 1900[6]:

  • Gweithdy adeiladydd yn Rhes Glynllifon.
  • Y Becws, a fu wedyn yn weithdy teiliwr ac yn weithdy gwneud hetiau cyn troi'n ôl yn fecws.
  • Gorsaf betrol, modurdy a gefail gan Owen Parry, wrth ochr Tafarn y Llanfair Arms lle buodd yn dafarnwr.
  • Lladd-dy yn Lleiniau.
  • Lladd-dy yn Nolnennan.
  • Gwaith Llechi Inigo Jones, neu "Injan Grafog" ar dafod leferydd. Fe'i elwir hefyd yn ffurfiol yn "Tudor Slate Works".
  • Gwaith Llechi Llifon, sef Gwaith Hafod y Nant, a elwid "Yr Injan".
  • Ffatri Tryfan, sef melin wlân Maes Tryfan.
  • Melin Forgan, melin flawd.
  • Melin Llwyn-y-gwalch, melin flawd.
  • Gefail yn 1, Rhes Gosen.
  • Gefail yn y Gwynllys.
  • Gefail yn y Garreg Fawr.
  • Gof arian yn Rhoslan.
  • Iard lo, a fu hefyd yn gwerthu hen bethau pensaernïol a defnyddiau adeiladu wedi'u hadfeddiannu.
  • Gweithdy seiri coed a seiri maen yn Nhŷ Popty.
  • Gweithdy saer coed (D.J. Roberts) yn Gladstone House.
  • Gweithdy saer coed (John Williams) yn Rhes Gladstone.
  • Gweithdy gof addurniadol (David Palmer) ym Mhenrhos.
  • Saer ac adeiladwr (William Jones) yn Nhŷ Coch.

Enwogion y pentref

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t. 692
  2. Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1801-9
  3. North Wales Express, 2.4.1880, t.6
  4. http://gbstamp.co.uk/article/gb-railway-sub-offices-and-postmarks-421.html. Cyrchwyd 29.12.2017.
  5. Wenna Williams (gol.) Hanes y Groeslon, tt.63-73.
  6. Gwybodaeth leol wedi ei chywain gan Mrs Mari Vaughan Jones