Ysgol Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn y lle cyntaf, ysgol i fabanod yn unig oedd Ysgol Gynradd y Groeslon, ym mhentref Y Groeslon. Fe'i hagorwyd rhwng y ddau ryfel byd, ac wedyn nid oedd angen i'r plant lleiaf ddringo'r allt i Ysgol Penfforddelen, hanner milltir i ffwrdd ar lôn Carmel, nes iddynt fod yn saith oed. Ar ôl cau Ysgol Penfforddelen (pan drowyd ysgolion uwchradd Pen-y-groes yn ysgol gyfun) codwyd adeiladau ychwanegol a'i throi'n ysgol 5-11 oed. Tua 2012, fodd bynnag, penderfynwyd nad oedd yr adeiladau newydd (a godwyd o ddarnau a wnaed mewn ffatri i raddau helaeth) yn dal mewn cyflwr digonol i ganiatáu eu hatgyweirio. Bu pwysau hefyd o gyfeiriad Llywodraeth Cymru i gyfuno ysgolion bach ar un safle ac, yn 2015, unwyd yr ysgol gynradd gydag Ysgol Bron-y-foel, ac Ysgol Gynradd Carmel i greu Ysgol Gynradd Bro Llifon mewn ysgol newydd ar safle Ysgol y Groeslon. Fe'i hadeiladwyd i'r safonau gorau a diweddaraf. Fodd bynnag, arhosai'r hen adeilad a oedd yn wreiddiol yn ysgol i fabanod yn ddigon cadarn ac fe'i hymgorfforwyd yn yr adeilad newydd.[1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma