Capel Ramoth (B), Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel y Bedyddwyr ym mhentref Y Groeslon yw Capel Ramoth, Y Groeslon (B). Cychwynnodd yr achos mewn tŷ pur ddi-sylw hyd nes codi'r capel ei hun.

Un o'r ffyddloniaid - a diaconiaid - cynharaf, ac un o sylfaenwyr yr achos yn fuan wedi 1870, oedd Moses Jones (1834-1906), Chatham Bach (rhwng Llandwrog a Saron). Roedd wedi symud i'r Groeslon ym 1870, ond cyn hynny, mynychai Gapel y Bedyddwyr ym Mhontlyfni, gan gerdded yno'n gyson o Chatham yr ochr arall i Landwrog. Cafodd ei fedyddio ym 1854 yn Afon Llyfnwy gan weinidog yr achos, y Parch. R. Jones, Llanllyfni. Cyn hynny roedd wedi mynychu Capel Saron (B), Llanaelhaearn pan oedd yn gweithio yn yr ardal honno.

Un arall o bileri cynnar yr achos oedd John Roberts (1831 - 1906), Rhandir, Y Groeslon, a fu'n ddiacon o 1883 hyd ddiwedd ei oes. Gŵr o'r Garreg, Llanfrothen ydoedd yn wreiddiol, ac wedi cael troedigaeth pan oedd tua 25 oed ac wedi mynychu'r enwog Gapel Ramoth, Llanfrothen nes symud i'r Groeslon, Dichon mai iddo fo mae'r diolch am enwi capel Y Groeslon yn Ramoth.[1]

Adeiladwyd y capel o gwmpas 1872[2], ac mae ar Res Gladstone, yng nghanol y pentref[3]. Bellach mae wedi cael ei droi'n dŷ annedd, ac mae achos y Bedyddwyr yn y Groeslon wedi cau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau