Capel Seilo (B), Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capel Seilo yn gapel bach gan y Bedyddwyr ym mhentref Pontlyfni, bron ar dalcen pont y pentref, ym mhen dwyreiniol rhes fechan o dai yn wynebu'r gogledd. Mae wedi cau ers oddeutu dechrau'r 1990au a dim ond tua phedwar o aelodau oedd yn weddill erbyn hynny. Fodd bynnag, mae'r adeilad yn dal yno ac mewn cyflwr da.

Yn ôl y cyfrifiad crefyddol ym 1851, roedd y capel hwn wedi ei adeiladu tua 1822 ac yn gapel eithaf poblogaidd - gyda 33 o blant a 136 oedolyn yn mynychu oedfaon yn wythnosol.[1] Yn ôl yr hyn sy'n cael ei gofnodi gan William Hobley, fodd bynnag, ymddengys fod capel (neu achos Bedyddwyr beth bynnag) yno flynyddoedd cyn hynny, gan fod rhai â thueddiadau Methodistaidd wedi bod yn mynychu ysgol Sul a gynhelid yng nghapel y Bedyddwyr ym Mhontlyfni am flynyddoedd cyn iddynt godi eu capel eu hunain, sef Capel Brynaerau (MC), tua hanner milltir i ffwrdd, ym 1826.[2]

Mae'r adeilad hefyd wedi ei gofnodi gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymreig.[3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. [ http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/ClynnogVawr Cofnod o'r Capel ar wefan genuki.org]
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.50
  3. Cofnod o'r Capel ar wefan y Comisiwn Brenhinol