Y Grugan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Y Grugan yn gartref teulu o fân fonheddwyr ac mae’n debygol mai tŷ Grugan Wen yn Y Groeslon sydd yn sefyll ar safle’r plasty gwreiddiol. Mae’r tŷ presennol, yn ôl y Comisiwn Henebion,[1] yn dyddio o’r 18g., ac mae’n amlwg yn dŷ gwell na thai ffermydd cyffredin o’r cyfnod sydd yn y gymdogaeth. Er bod y tŷ'n dal i sefyll, mae bellach yn dŷ annedd yng nghanol tai pentref Y Groeslon, gan fod y rhan fwyaf o'r pentref wedi ei godi ar hen dir y Grugan.

Ceir sôn am y Grugan mor gynnar â 1595 fel “Tuthin grigan”). Ym 1639, roedd Thomas Owen yn byw yno, pan weithredodd fel un o dystion ewyllys Hugh Roberts, gŵr ordeiniedig.[2]. Aeth yntau ymlaen i gael ei ordeinio gan weithredu (o bosibl) fel ficer neu gurad Llandwrog, gan ei fod yn ei ddisgrifio ei hun fel “clerc” (sef, parchedig) yn ei ewyllys. Bu farw tua diwedd 1683. Bron yr unig beth arall sy’n wybyddus amdano yw enw ei wraig, sef Margaret Williams, ac enw ei frawd, Hugh Owen. O’r chwe thyst i'w ewyllys roedd tri’n offeiriaid.[3]

Erbyn 1842 pan wnaed y Map Degwm, roedd tair fferm yn rhannu’r enw: Grugan Wen (y fferm fwyaf), Grugan Ddu a’r Grugan Ganol. Roedd tiroedd Grugan Ganol wrth ymyl y groesffordd lle croesa’r hen lôn bost o Gaernarfon i Ddyffryn Nantlle y lôn sydd yn rhedeg o’r mynydd i lawr trwy’r plwyf i gyfeiriad y môr. Hen enw’r groesffordd hon oedd “Groeslon Grugan”, ac o’r enw hwnnw y daw enw pentref Y Groeslon heddiw. Ystyr crugan yw boncen fach yn ôl Dr Glenda Carr.[4] Tŷ Grugan Ganol yw’r tŷ hynaf ar Lôn Newydd, tua 300 llath o’r groesffordd.

Erbyn 1842, roedd Grugan Ganol a Grugan Ddu yn rhan o Ystad Glynllifon, ac roedd Grugan Ganol (beth bynnag am Grugan Ddu) yn dal yn rhan o’r ystâd ym 1937.[5]

Ym 1842, roedd Grugan Wen yn eiddo i ddynes o’r enw Catherine Hughes (a aned tua 1776) a hi oedd yn ei ffermio 20 erw. Gweddw Evan Hughes, iwmon o Blasnewydd, Llandwrog ydoedd.[6] Bu farw Catherine Hughes ym 1857, gan adael Grugan, y tai cysylltiedig â’r eiddo a holl stoc y fferm i’w mab hynaf, Evan Hughes. Ymddengys o’r rhestr o’i heiddo mai tyfu haidd a gwair oedd prif waith y fferm. Roedd ganddi geffyl, aradr a thipyn o offer llaw ond dim ond dwy fuwch at ddefnydd y teulu ac i gynhyrchu ychydig o gynnyrch llaeth, i’w werthu efallai.[7]. Nid oedd neb yn byw yn y Grugan Wen ym 1861, ond ym 1871, roedd Evan Hughes, 68 oed, yn byw yno gyda’i ferch Margaret, ei gŵr hi Ellis Roberts, chwarelwr, a’u teulu bach.[8] Bu farw Evan Hughes y flwyddyn ganlynol.[9] Gwerthwyd Grugan Wen (ynghyd â rhesi bach o dai ar allt pentref Y Groeslon a hen dŷ Cae Sarn) ym 1880, a hynny am fwy na £6000 mewn 50 o barseli, ac aeth Ellis Roberts a’r teulu i fyw yn nhŷ Grugan Ganol.[10] Roedd fferm Grugan Wen bellach wedi mynd i raddau helaeth yn dai ac yn dir adeiladu.

Ym 1881, Thomas Hughes, chwarelwr, Mary ei wraig a chwech o blant oedd yn byw yng Ngrugan Wen. Roedd y teulu’n dal yno ym 1891, 1901 a 1911 ac, er ei fod yn 77 oed, roedd Thomas Hughes yn dal i weithio ym 1911 fel clerc mewn tŷ pwyso yn y chwarel.[11] Bu farw ei wraig Mary ym 1918 yn 85 oed, a dichon iddo yntau farw yn fuan wedyn.[12]

Mae’r tri thŷ yn dal i sefyll hyd heddiw, a hynny mewn dwylo preifat, ond mae tir Grugan Wen a’r rhan fwyaf o dir Grugan Ganol wedi ei ddefnyddio fel tir adeiladu fel mae’r pentref wedi ehangu. Mae un ystâd sylweddol o dai a byngalos yn cael ei alw “Y Grugan”. Mae Grugan Ddu yn fwthyn unllawr, ac wedi ei gategoreiddio'n heneb Gradd II oherwydd ei nodweddion fel tŷ tyddyn o ddechrau’r 19g., er bod elfennau o dŷ o’r 17g. yn yr adeiledd.[13]

Hysbyseb am arwerthiant 1880






Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.188
  2. Archifdy Prifysgol Bangor, Bangor (Mostyn) 8850
  3. LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B/1683/34
  4. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), t.129
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/11794
  6. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1851; Archifdy Caernarfon, XD2/6648
  7. LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B/1857/112
  8. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1861-71
  9. Mynegeion FindMyPast
  10. North Wales Express, 2.4.1880, t.6; Archifdy Caernarfon, XD2/14412
  11. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1881-1911
  12. Y Dinesydd Cymreig, 27.11.1918, t.5
  13. Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 30.10.2023