Mynachdy Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 7 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Monachdy Gwyn o'r allt.jpg|bawd|300px|de|Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir]]
[[Delwedd:Monachdy Gwyn o'r allt.jpg|bawd|300px|de|Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir]]


Mae '''Mynachdy Gwyn''', hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau [[Bwlch Mawr]]  ger fferm [[Cwm]]. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan ddisgybl i [[Sant Beuno]] o’r enw [[Sant Gwyddaint]]. Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, sydd mewn pant cyfforddus wedi ei warchod gan y [[Bwlch Mawr]] a Phen y Gaer, gyda’r [[Afon Wen]] yn treiglo heibio a sylfaen o garreg oddi tani.
Saif '''Mynachdy Gwyn''', hen gartref [[Teulu Meredydd, Mynachdy Gwyn|teulu'r Meredyddiaid]] yn y 16-18g, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]] nid nepell o'r ffin ag Eifionydd, ac ar waelod llethrau [[Bwlch Mawr]]  ger fferm [[Cwm]]. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan [[Gwyddaint]], disgybl (yr honnir) i [[Sant Beuno]] . Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, mewn pant cysgodol wedi ei warchod gan y [[Bwlch Mawr]] a [[Pen-y-gaer|Phen y Gaer]], gydag [[Afon Wen]] yn llifo heibio.


Adnewyddwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn.  Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn 979 OC.
Ailsefydlwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwynion.  Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn 979 OC.


Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd erbyn hyn yn berchen ar diroedd trefgordd [[Cwm]] a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog.  Fe’i rhoddodd i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.   
Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd wedi dod yn berchen ar diroedd trefgordd [[Cwm]] a oedd yn cynnwys [[Hengwm]], Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r [[Gyfelog]]Rhoddodd Llywelyn y safle i’r mynaich yn [[Abaty Aberconwy]].   


Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd yn 1536, rhoddwyd y faenor gan y Goron i Syr John Puleston.  Ar yr un adeg fodd bynnag, roedd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys wedi prynu les ar drefgordd Cwm ac wedi symud yno gyda’i deulu i fywByddai ei ddisgynyddion ef yn ymgartrefu ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes [[Humphrey Meredydd]], sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw ym Mynachdy. Bu ef yn siryf ar y sir yn 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg All Souls gan ennill gradd BD yn 1591.  Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod o hyd oddi fewn i Eglwys Llanwnda yn Dinas. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref>  
Ar ôl Diddymiad y Mynachlogydd ym 1536, rhoddodd y Goron y faenor i Syr John Puleston.  Rywbryd yn fuan wedi hynny, prynodd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys les ar drefgordd Cwm, gan symud yno i fyw, gyda’i deulu.  Parhai ei ddisgynyddion ef i fyw ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes Humphrey Meredydd, sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw yno. Bu ef yn siryf Sir Gaernarfon ym 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg yr Holl Saint, Rhydychen, gan ennill gradd BD ym 1591.  Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod y tu fewn i Eglwys Llanwnda o hyd. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref>  


Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef [[Teulu Glyn (Glynllifon)]], [[Pennarth]] a Madryn, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.  
Roedd y teulu'n berchnogion tiroedd eithaf sylweddol, ond prin yr ystyriwyd y teulu ymysg y rheng uchaf yn y sir. Fodd bynnag, bu i rai o blant y teulu briodi aelodau o deuluoedd mwyaf y fro, sef [[Teulu Glyn (Glynllifon)]], [[Pennarth]] a Madryn - priodasau a drefnwyd , mae'n debyg, er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad [[Glynllifon]] ymysg mân-fonheddwyr y fro.  


Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf. 2, t. 45</ref>  
Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol sydd yn dyddio'n ôl i'r 16g.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf. 2, t. 45</ref>  


Dros amser, daeth ffermio yn rhan sylfaenol o fodolaeth ym Mynachdy ac ystad Aberdeunant a oedd yn berchen arno olaf. Dywedir ar lafar fod cyfamod na ddylid aredig un cae arbennig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno yn 1935.<ref>Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai]].</ref>
Dros gyfnod o amser, lleihaodd pwysigrwydd Mynachdy Gwyn nes iddo fod yn fawr mwy na fferm ar ystad Aberdeunant, Beddgelert. Dywedir ar lafar fod cyfamod wedi ei wneud na fyddai un cae arbennig yn cael ei aredig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.<ref>Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai]].</ref>
 
Am erthygl am yr ystad oedd yn perthyn i deulu Meredydd hyd 1778, gweler [[Ystad Mynachdy Gwyn]].


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:36, 25 Medi 2023

Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir

Saif Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu'r Meredyddiaid yn y 16-18g, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr nid nepell o'r ffin ag Eifionydd, ac ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan Gwyddaint, disgybl (yr honnir) i Sant Beuno . Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, mewn pant cysgodol wedi ei warchod gan y Bwlch Mawr a Phen y Gaer, gydag Afon Wen yn llifo heibio.

Ailsefydlwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwynion. Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng Nghlynnog yn 979 OC.

Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd wedi dod yn berchen ar diroedd trefgordd Cwm a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog. Rhoddodd Llywelyn y safle i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.

Ar ôl Diddymiad y Mynachlogydd ym 1536, rhoddodd y Goron y faenor i Syr John Puleston. Rywbryd yn fuan wedi hynny, prynodd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys les ar drefgordd Cwm, gan symud yno i fyw, gyda’i deulu. Parhai ei ddisgynyddion ef i fyw ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes Humphrey Meredydd, sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw yno. Bu ef yn siryf Sir Gaernarfon ym 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg yr Holl Saint, Rhydychen, gan ennill gradd BD ym 1591. Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod y tu fewn i Eglwys Llanwnda o hyd. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[1]

Roedd y teulu'n berchnogion tiroedd eithaf sylweddol, ond prin yr ystyriwyd y teulu ymysg y rheng uchaf yn y sir. Fodd bynnag, bu i rai o blant y teulu briodi aelodau o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glyn (Glynllifon), Pennarth a Madryn - priodasau a drefnwyd , mae'n debyg, er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol sydd yn dyddio'n ôl i'r 16g.[2]

Dros gyfnod o amser, lleihaodd pwysigrwydd Mynachdy Gwyn nes iddo fod yn fawr mwy na fferm ar ystad Aberdeunant, Beddgelert. Dywedir ar lafar fod cyfamod wedi ei wneud na fyddai un cae arbennig yn cael ei aredig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.[3]

Am erthygl am yr ystad oedd yn perthyn i deulu Meredydd hyd 1778, gweler Ystad Mynachdy Gwyn.

Cyfeiriadau

  1. CHC, op.cit., t.40
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  3. Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.