Teulu Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
==Trosolwg== | ==Trosolwg== | ||
Mae '''Teulu Glynllifon''' yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd [[Uwchgwyrfai]], gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod | Mae '''Teulu Glynllifon''' yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd [[Uwchgwyrfai]], gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o'r uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod yr 16g. mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" neu ''Glynne'' - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r llall fel roedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan frenhinoedd y Tuduriaid o gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriaid yn Lloegr. | ||
Methodd y llinach | Methodd y llinach ar yr ochr wrywaidd ar farwolaeth [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]] ym 1685, a bu i ferch hynaf y plas briodi ag aelod o deulu Boduan, Llŷn a oedd yn arddel y cyfenw "Wynn" ym 1700.<ref>W. Gilbert Williams, ''Glyniaid Glynllifon'' (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.36</ref> Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Er 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef [[Arglwyddi Newborough|Arglwydd Newborough]]. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.<ref>Mae'r prif ffeithiau yn yr erthygl hon i'w canfod yn J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172-3</ref> | ||
==Penteuluoedd Glynllifon== | ==Penteuluoedd Glynllifon== | ||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
'''Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen''' | '''Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen''' | ||
* Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd | * Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd mab Gwrydyr yn ôl yr achresi. Roedd ei frawd hŷn, [[Morgeneu Ynad]], ail fab Gwrydyr, yn hen hen hen hen daid i Morfudd ferch Hywel a briododd â Tudur Goch o Blas Nantlle. | ||
* [[Ystrwyth ab Ednowain]] | * [[Ystrwyth ab Ednowain]] | ||
* Iorwerth Goch | * Iorwerth Goch | ||
* Ieuan ab Iorwerth | * Ieuan ab Iorwerth | ||
* Einion ab Ieuan, a briododd Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn | * Einion ab Ieuan, a briododd ag Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn | ||
* Goronwy ab Einion, a briododd Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn | * Goronwy ab Einion, a briododd â Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn | ||
* [[Tudur Goch]] o [[Plas Nantlle|Blas Nantlle]], a briododd Morfudd ferch Hywel, ei | * [[Tudur Goch]] o [[Plas Nantlle|Blas Nantlle]], a briododd â Morfudd ferch Hywel, ei gyfnither o'r chweched ach, sef ei chweched cyfnither. Roedd hi'n gyd-etifeddes cangen [[Morgeneu Ynad]] o deulu Cilmin Droed-ddu (a oedd yn cynnwys Glynllifon),<ref>W. Gilbert Williams, ''Glyniaid Glynllifon'' (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref> ac felly daeth dwy ran o etifeddiaeth Cilmin (a bwrw bod Cilmin yn berson go iawn) at ei gilydd, gan gryfhau eiddo'r teulu. | ||
'''Y teulu | '''Y teulu y gwyddys yn sicr eu bod wedi byw yng Nglynllifon''' | ||
* [[Hwlcyn Llwyd]], y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn | * [[Hwlcyn Llwyd]], y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd â Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn | ||
* [[Meredydd ap Hwlcyn]], yn fyw ym 1456 | * [[Meredydd ap Hwlcyn]], yn fyw ym 1456 | ||
* Robert ap Meredydd, yn fyw ym 1440 | * [[Robert ap Meredydd]], yn fyw ym 1440 | ||
* Edmund Llwyd, yn marw ym 1540 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. | * [[Edmund Llwyd]], yn marw ym 1540 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Ef oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, a fabwysiadodd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anghymwys i etifeddu ystâd | ||
* William Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1562 | * [[William Glynn]], Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1562 | ||
* [[Thomas Glynn | * [[Thomas Glynn (y cyntaf)|Thomas Glynn]], Uchel Siryf Ynys Môn, 1584, gŵr Catherine, merch ac aeres John ap Richard ap Morris o'r Glynn, Llanfwrog, Môn - a ddaeth â thiroedd Môn i'r ystâd | ||
* [[Syr William Glynn]], Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn | * [[Syr William Glynn]], Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchog ym 1606 ar sail ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Bu farw 1620. | ||
* [[Thomas Glynn, AS a botanegydd|Thomas Glynn]], Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623 -1640. Botanegydd cynnar. | * [[Thomas Glynn, AS a botanegydd|Thomas Glynn]], Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623-1640. Botanegydd cynnar. Bu farw 1647. | ||
* [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]], a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro. | * [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]], a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd ag Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro. Bu farw 1685. | ||
Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, | Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, Llŷn. | ||
Dyma'r llinach | Dyma'r llinach wrywaidd wreiddiol a feddiannodd Glynllifon rywbryd yn ystod y Canol Oesoedd Cynnar nes i'r llinach wrywaidd fethu yn niwedd yr 17g. Rhestrir y penteuluoedd yn nhrefn amser. Mae erthyglau unigol yn '''Cof y Cwmwd''' am y rhai mwyaf nodedig ohonynt. | ||
===Y Wynniaid=== | ===Y Wynniaid=== | ||
* [[Syr Thomas Wynn]] (1678-1749), Aelod Seneddol, barwnig o Foduan a wnaeth [[Plas Glynllifon]] yn brif annedd y teulu wedi iddo | * [[Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af]] (1678-1749), Aelod Seneddol, barwnig o Foduan a wnaeth [[Plas Glynllifon]] yn brif annedd y teulu wedi iddo ef briodi Frances Glynn a oedd wedi etifeddu'r ystad oherwydd i John Glynn farw heb fab. | ||
* [[Syr John Wynn]] (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd Jane, merch John Wynne o'r Melai, | * [[Syr John Wynn]] (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd â Jane, merch John Wynne o'r Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i [[Ystad Glynllifon]] | ||
* | * [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] (1736-1807), y trydydd barwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig. Fe briododd â merch Iarll Egmont, ac wedyn â [[Maria Stella]] | ||
* [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]], 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n | * [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]], 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddi-briod ac fe'i holynwyd gan ei frawd | ||
* [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] (1803-1888) | * [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] (1803-1888) | ||
* [[Frederick George Wynn]] (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni | * [[Frederick George Wynn]] (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni phriododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysurol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw. | ||
Gallai ymddangos yn rhyfedd fod y pedwerydd mab wedi etifeddu'r ystadau, ond rhaid cofio fod ystadau eraill gan y teulu erbyn hynny. Roedd ffermydd ym mhlwyf Ffestiniog a oedd yn eiddo iddynt wedi datblygu dros y 19g yn chwareli hynod o gynhyrchiol, a'r teulu'n cael breindal ar bob tunnell o lechi a gynhyrchid: cyfoeth heb weithio amdano; etifedd y teitl felly gafodd y darn yna o'r ystad. Hefyd roedd gan y teulu diroedd eang ystad y Rhug ger Corwen ar gyfer meibion eraill. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:57, 2 Chwefror 2023
Trosolwg
Mae Teulu Glynllifon yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd Uwchgwyrfai, gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o'r uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod yr 16g. mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" neu Glynne - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r llall fel roedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan frenhinoedd y Tuduriaid o gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriaid yn Lloegr.
Methodd y llinach ar yr ochr wrywaidd ar farwolaeth John Glynn ym 1685, a bu i ferch hynaf y plas briodi ag aelod o deulu Boduan, Llŷn a oedd yn arddel y cyfenw "Wynn" ym 1700.[1] Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Er 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef Arglwydd Newborough. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.[2]
Penteuluoedd Glynllifon
Y Glynniaid
Yr achres gynnar, lled ansicr
- Cilmin Droed-ddu, sylfaenydd y teulu a'i gyfoeth yn ôl y chwedl
- Lleon
- Llowarch
- Iddig
- Iddon
- Dyfnaint
- Gwrydyr
Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen
- Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd mab Gwrydyr yn ôl yr achresi. Roedd ei frawd hŷn, Morgeneu Ynad, ail fab Gwrydyr, yn hen hen hen hen daid i Morfudd ferch Hywel a briododd â Tudur Goch o Blas Nantlle.
- Ystrwyth ab Ednowain
- Iorwerth Goch
- Ieuan ab Iorwerth
- Einion ab Ieuan, a briododd ag Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn
- Goronwy ab Einion, a briododd â Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn
- Tudur Goch o Blas Nantlle, a briododd â Morfudd ferch Hywel, ei gyfnither o'r chweched ach, sef ei chweched cyfnither. Roedd hi'n gyd-etifeddes cangen Morgeneu Ynad o deulu Cilmin Droed-ddu (a oedd yn cynnwys Glynllifon),[3] ac felly daeth dwy ran o etifeddiaeth Cilmin (a bwrw bod Cilmin yn berson go iawn) at ei gilydd, gan gryfhau eiddo'r teulu.
Y teulu y gwyddys yn sicr eu bod wedi byw yng Nglynllifon
- Hwlcyn Llwyd, y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd â Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn
- Meredydd ap Hwlcyn, yn fyw ym 1456
- Robert ap Meredydd, yn fyw ym 1440
- Edmund Llwyd, yn marw ym 1540 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Ef oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, a fabwysiadodd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anghymwys i etifeddu ystâd
- William Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1562
- Thomas Glynn, Uchel Siryf Ynys Môn, 1584, gŵr Catherine, merch ac aeres John ap Richard ap Morris o'r Glynn, Llanfwrog, Môn - a ddaeth â thiroedd Môn i'r ystâd
- Syr William Glynn, Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchog ym 1606 ar sail ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Bu farw 1620.
- Thomas Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623-1640. Botanegydd cynnar. Bu farw 1647.
- John Glynn, a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd ag Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro. Bu farw 1685.
Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, Llŷn.
Dyma'r llinach wrywaidd wreiddiol a feddiannodd Glynllifon rywbryd yn ystod y Canol Oesoedd Cynnar nes i'r llinach wrywaidd fethu yn niwedd yr 17g. Rhestrir y penteuluoedd yn nhrefn amser. Mae erthyglau unigol yn Cof y Cwmwd am y rhai mwyaf nodedig ohonynt.
Y Wynniaid
- Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af (1678-1749), Aelod Seneddol, barwnig o Foduan a wnaeth Plas Glynllifon yn brif annedd y teulu wedi iddo ef briodi Frances Glynn a oedd wedi etifeddu'r ystad oherwydd i John Glynn farw heb fab.
- Syr John Wynn (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd â Jane, merch John Wynne o'r Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i Ystad Glynllifon
- Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough (1736-1807), y trydydd barwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig. Fe briododd â merch Iarll Egmont, ac wedyn â Maria Stella
- Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddi-briod ac fe'i holynwyd gan ei frawd
- Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough (1803-1888)
- Frederick George Wynn (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni phriododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysurol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw.
Gallai ymddangos yn rhyfedd fod y pedwerydd mab wedi etifeddu'r ystadau, ond rhaid cofio fod ystadau eraill gan y teulu erbyn hynny. Roedd ffermydd ym mhlwyf Ffestiniog a oedd yn eiddo iddynt wedi datblygu dros y 19g yn chwareli hynod o gynhyrchiol, a'r teulu'n cael breindal ar bob tunnell o lechi a gynhyrchid: cyfoeth heb weithio amdano; etifedd y teitl felly gafodd y darn yna o'r ystad. Hefyd roedd gan y teulu diroedd eang ystad y Rhug ger Corwen ar gyfer meibion eraill.
Cyfeiriadau
- ↑ W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.36
- ↑ Mae'r prif ffeithiau yn yr erthygl hon i'w canfod yn J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172-3
- ↑ W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33