Afon Gwyled: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Afon Gwyled''' yn codi ger Penrhyn ar lethrau [[Moel Tryfan]], gan fynd heibio i Fod-gadfan, [[Rhosgadfan]] ac yn rhedeg trwy geunant bas ac agored ar hyd y lôn a elwir yn ''Allt Pen Gwrli'' - neu, yn swyddogol ar y mapiau, ''Allt Pen-y-gwylwyr'' - heibio pentref [[Rhostryfan]], lle saif pont drosti, sef [[Pont Cefn Pederau]], ac yn llifo ar hyd dyffryn bas (ond un gyda cheunant ger fferm [[Cefn Hendre]]) nes ymuno ag [[Afon Carrog]] yr ochr orllewinol i'r bont yn y [[Dolydd]]. Ar ei glannau yr oedd melin a elwid yn [[Melin Cil Tyfu|Felin Cil Tyfu]] ac a oedd yn perthyn i stad Wynniaid Gwedir yn y 16g.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/Misc.</ref> Noda [[W. Gilbert Williams]] fod cymysgedd wedi bod rhwng afonydd Gwyled a [[Afon Carrog|Charrog]], ond yr afon a lifai agosaf at eglwys [[Llanwnda]] oedd y Wyled, oherwydd cyfeiriadau ati yn ''Siartr Mynachlog Aberconwy''.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.17</ref> Dichon am yr un rheswm, cafwyd enw newydd ar y Wyled, sef [[Afon Rhyd]]. Serch hyn. mae dogfen dyddiedig 1778 yn sôn am ''Afon Dwyled'' yr oedd [[Pont Dwyled]] yn ei phontio ger [[Hen Gastell]], [[Llanwnda]].<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/160.</ref>
Mae '''Afon Gwyled''' yn codi ger Penrhyn ar lethrau [[Moel Tryfan]], gan fynd heibio i Fod-gadfan, [[Rhosgadfan]] a rhedeg trwy geunant bas ac agored ar hyd y lôn a elwir yn ''Allt Pen Gwrli'' - neu, yn swyddogol ar y mapiau, ''Allt Pen-y-gwylwyr''. Aiff heibio i bentref [[Rhostryfan]], lle saif pont drosti, sef [[Pont Cefn Pederau]], ac yna llifo ar hyd dyffryn bas (ond un gyda cheunant ger fferm [[Cefn Hendre]]) nes ymuno ag [[Afon Carrog]] yr ochr orllewinol i'r bont yn y [[Dolydd]]. Ar ei glannau yr oedd melin a elwid yn [[Melin Cil Tyfu|Felin Cil Tyfu]] ac a oedd yn perthyn i stad Wynniaid Gwedir yn yr 16g.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/Misc.</ref> Noda [[W. Gilbert Williams]] fod cymysgu wedi bod rhwng afonydd Gwyled a [[Afon Carrog|Charrog]], ond yr afon a lifai agosaf at eglwys [[Llanwnda]] oedd yr Wyled, oherwydd cyfeiriadau ati yn ''Siartr Mynachlog Aberconwy''.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.17</ref> Dichon am yr un rheswm, cafwyd enw newydd ar yr Wyled, sef [[Afon Rhyd]]. Serch hynny, mae dogfen dyddiedig 1778 yn sôn am ''Afon Dwyled'' yr oedd [[Pont Dwyled]] yn ei phontio ger [[Hen Gastell]], [[Llanwnda]].<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/160.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 7: Llinell 7:


[[Categori:Afonydd]]
[[Categori:Afonydd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:58, 4 Ebrill 2022

Mae Afon Gwyled yn codi ger Penrhyn ar lethrau Moel Tryfan, gan fynd heibio i Fod-gadfan, Rhosgadfan a rhedeg trwy geunant bas ac agored ar hyd y lôn a elwir yn Allt Pen Gwrli - neu, yn swyddogol ar y mapiau, Allt Pen-y-gwylwyr. Aiff heibio i bentref Rhostryfan, lle saif pont drosti, sef Pont Cefn Pederau, ac yna llifo ar hyd dyffryn bas (ond un gyda cheunant ger fferm Cefn Hendre) nes ymuno ag Afon Carrog yr ochr orllewinol i'r bont yn y Dolydd. Ar ei glannau yr oedd melin a elwid yn Felin Cil Tyfu ac a oedd yn perthyn i stad Wynniaid Gwedir yn yr 16g.[1] Noda W. Gilbert Williams fod cymysgu wedi bod rhwng afonydd Gwyled a Charrog, ond yr afon a lifai agosaf at eglwys Llanwnda oedd yr Wyled, oherwydd cyfeiriadau ati yn Siartr Mynachlog Aberconwy.[2] Dichon am yr un rheswm, cafwyd enw newydd ar yr Wyled, sef Afon Rhyd. Serch hynny, mae dogfen dyddiedig 1778 yn sôn am Afon Dwyled yr oedd Pont Dwyled yn ei phontio ger Hen Gastell, Llanwnda.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/Misc.
  2. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.17
  3. Archifdy Caernarfon XPlansB/160.