Y Sefydliad Chwarelydda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Y Sefydliad Chwarelydda â'i wreiddiau yn Uwchgwyrfai er iddo ddatblygu'n sefydliad ar draws Prydain Fawr, gan mai rheolwr chwareli ithfaen yn Uwchgwyrfai, Simon McPherson, a'i sefydlodd ym 1917.

Ym 1917 fe alwodd McPherson gyfarfod yng ngwesty Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, pan benderfynwyd sefydlu corff a ddatblygodd yn fuan fel Y Sefydliad Chwarelydda (Institute of Quarrying neu IoQ ), ac fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol arno. Hwn yw corff proffesiynol peirianwyr ac arbenigwyr chwarelydda ym Mhrydain Fawr hyd heddiw, gyda changhennau mewn sawl man yn y byd.[1] Cododd y Sefydliad bencadlys newydd ym 1912 yn Chilwell, Swydd Nottingham a'i enwi'n McPherson House i anrhydeddu ei sylfaenydd.[2]

Ar ei farwolaeth ym 1957 fe olynwyd McPherson fel ysgrifennydd cyffredinol y Sefydliad gan ei fab.

Cylchgrawn y Sefydliad yw The Quarry Manager's Journal; y mae ôl-rifynnau i'w cael mewn llawer o gasgliadau archifol chwareli yn yr ardal.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ian Thomas, Y Diwydiant Chwarelydda yng Nghymru (dwyieithog), Canolfan Genedlaethol Cerrig , (Wirksworth, 2014)
  2. Tudalen IoQ ar Wikipedia [1]