Simon McPherson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Portread gan Simon Elwes, RA

Rheolwr chwareli ithfaen oedd Simon McPherson (c1877-1957).

Roedd McPherson yn rheolwr Chwareli ithfaen Tyddyn Hywel a Than-y-graig, rhwng Clynnog Fawr a phentref Trefor, ar lethrau gogleddol Gurn Ddu, rhwng 1909 a 1922.

Ym 1917 fe drefnodd gyfarfod yng ngwesty Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, pan benderfynwyd sefydlu corff a ddatblygodd yn fuan fel Y Sefydliad Chwarelydda (Institute of Quarrying neu IoQ ), ac fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol iddo. Hwn yw corff proffesiynol peirianwyr ac arbenigwyr chwarelydda ym Mhrydain Fawr hyd heddiw, gyda changhennau mewn sawl man yn y byd.[1] Cododd y Sefydliad bencadlys newydd ym 1912 yn Chilwell, Swydd Nottingham a'i enwi'n McPherson House i anrhydeddu ei sylfaenydd.[2]

Ar ei farwolaeth ym 1957 fe'i holynwyd yn ysgrifennydd cyffredinol y Sefydliad gan ei fab.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ian Thomas, Y Diwydiant Chwarelydda yng Nghymru (dwyieithog), Canolfan Genedlaethol Cerrig , (Wirksworth, 2014)
  2. Tudalen IoQ ar Wikipedia [1]