Trefgorddau Uwchgwyrfai 1352
Cyffredinol
Yn ystod y Canol Oesodd dan y Tywysogion ac wedyn o dan reolaeth Seisnig hyd at 1536 rhannwyd y wlad at ddibenion gweinyddu a threthu'n gantrefi (megis Arfon), cymydau (megis Uwchgwyrfai) ac wedyn trefgorddau, unedau oedd rhywfaint yn llai na'r plwyfi a chymunedau yr ydym yn gyfarwydd â nhw.
Fel arfer, yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n dod o dan reolaeth uniongyrchol y Tywysog. Iddo fo, trwy ei swyddogion y Rhaglaw a'r Rhingyll, y telid pob rhent a 'dirwy', sef taliadau ar achlysuron penodol megis etifeddu'r hawl i fod yn denant, ac iddo fo yr oedd angen cyflawni ambell i wasanaeth megis atgyweirio melin yr arglwydd, cludo ei nwyddau a chynnal yr arglwydd neu ei swyddogion pan oeddynt ar eu taith trwy'r cwmwd.
Bu i'r tywysogion weithiau drosglwyddo eu hawliau i sefydliadau eglwysig fel modd i sicrhau gwaddol iddynt - ac, yn ôl pob ymddangosiad, i geisio maddeuant am eu pechodau mewn cyfnod pan oedd yr Eglwys Babyddol yn honni bod modd prynu iachawdwriaeth yn y byd a ddaw. Yr mwy o hanner trefgorddau Uwchgwyrfai wedi eu neilltuo i ddarparu cynhaliaeth i'r Eglwys a'i sefydliadau yn y modd yna, a hynny'n rywbeth o eithriad i'r sefyllfa arferol mewn cwmwd - er bod y trefgorddi a neilltuwyd, at ei gilydd, yn llai o ran arwynebedd na threfgorddau a arhosai o dan y Tywysog. Beth bynnag am hynny, mae'n debyg fod gofyniad ar bob tenant yn ddiwahân cyflwyno degwm o'u cynnyrch i'r offeiriaid lleol, wedi'r Goresgyniad ym 1284 beth bynnag - bu'n gyfraith yn Lloegr ers yr 8g. ac unwaith y daeth dylanwad y Normaniaid yn gynyddol amlwg yng Nghymru ar ôl 1066 bu cynnydd yn yr arfer o fynnu degwm, ac yn sicr erbyn tua 1400 yr oedd yr arfer yn gyffredin iawn - mae Siôn Cent y bardd yn annog i bobl eu talu heb gwyno, fel rhan o fywyd rhinweddol.[1]
Rhestr o'r trefgorddau
Mae erthygl ar bob un o'r trefgorddau ar gael yn unigol, lle nodir ffiniau neu leoliad, tenantiaid yn ystod y 14g., rhenti, ac ati, yn ôl y manylion sydd bellach ar gael i ni heddiw. Lle cafwyd hyd i ddogfen Ladin yn ymdrin â hyn ac sydd ar gael ar ffurf argraffedig neu'n electronig, ceisir rhoi cyfieithiad rhydd yng nghorff yr erthygfl berthnasol, y rhan fwyaf yn llyfr The Record of Caernarvon[2] neu erthygl gan Dr Colin Gresham ar siartr Aberconwy[3]
Tregorddau'r Tywysog
* Bodellog - i'r de o'r Bontnewydd * Dinlle - yn fras, rhan uchaf plwyf Llanwnda a'r rhan fwyaf o blwyf Llandwrog * Elernion - ardal Trefor * Pennarth - ardal Aberdesach
Trefgorddau wedi eu neilltuo i roi cynhaliaeth i glâs ac Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr
Roedd gan denantiaid y terfgorddi hyn ddyletswydd i ddefnyddio melin y tywysog a thalu rhai ddirwyon i'r tywysog
* Clynnog yng ngwaelodion plwyf Clynnog Fawr * Bryncynan yn ardal Pontlyfni * Llanllyfni, sef rhan uchaf plwyf Llanllyfni
Trefgorddau a roddwyd i Abaty Aberconwy fel lluestai
Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r abaty er nad oedd hyn yn atal swyddogion y Tywysog lleyg geisio codi trethi arnynt weithiau.[4]
* Cwm, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr ar lethrau Mynydd Bwlch Mawr * Nancall, yr ardal o gwmpas Pant-glas * Rhedynog Felen, sef rhan o blwyf presennol Llanwnda, rhwng y Dolydd a'r môr
Trefgordd ag Esgob Bangor yn arglwydd arni
Roedd pob taliad, dyletswydd a gwasanaeth yn cael ei roi i'r esgob
* Llanwnda - sef y tir rhwng Bodellog a Rhedynog Felen, yn fras ardal Dinas a Saron heddiw.
Cyfeiriadau
- ↑ Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation, (Caerdydd, 1962), tt.17, 238-9.
- ↑ Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939)
- ↑ Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation, (Caerdydd, 1962), t.58