Tirion Twrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ar fap y Degwm nodwyd tŷ o'r enw Tir Twrog yng nghyffiniau Bethesda Bach ym mhlwyf Llandwrog ac mae'n debyg mai'r un lle yw hwn â'r Tirion-Twrog a nodwyd yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842. Unig ystyr tirion i ni erbyn hyn yw ansoddair yn golygu addfwyn neu hynaws. Ond yn Tirion Twrog yr hyn a geir yw ffurf luosog hynafol tir, sef tirion. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi sawl enghraifft o'r ffurf hon o'r 12g a'r 13g. Ym mhlwyf Llanllyfni ceir Tirion Pelyn, sef tiroedd a oedd ar un adeg yn eiddo i ddyn o'r enw Pelyn - a ddeilliodd mae'n debyg o ab Heilyn. Mae'n bosib mai ystyr yr enw Tirion Twrog yw tir a oedd yn eiddo i'r eglwys yn Llandwrog. Mae'r ffurf tirion yn awgrymu fod yr enw'n bur hynafol - efallai fod traddodiad (colledig erbyn hyn) yn cysylltu Sant Twrog â'r llecyn hwn. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.235