Tafarn y Bull
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Roedd tafarn o'r enw Tafarn y Bull yn Y Bontnewydd ar ddechrau'r 19g. Evan Williams oedd y tafarnwr ac yno y cyfarfu Cymdeithas yr Eryron, sef cymdeithas farddol a arweinid gan Dafydd Ddu Eryri. Roedd William Williams, Bodaden, brawd Evan, ymysg yr aelodau mwyaf amlwg. Ni fu'n bosibl canfod union leoliad y dafarn hon, ac efallai ei bod yn sefyll ychydig lathenni y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai, neu efallai wrth Rhes Malsters ar ochr Uwchgwyrfai i Afon Gwyrfai.[1]
Cyfeioriadau
- ↑ North Wales Gazette, 27.5.1813, t.4