Sinemâu Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Sinemau Uwchgwyrfai)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ystod yr ugeinfed ganrif sefydlwyd nifer o sinemâu yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Yr unig sinema barhaol oedd y "Plaza" ym mhentref mwyaf poblog y cwmwd, Pen-y-groes, yn Heol y Dŵr. Fe’i hagorwyd gan y Capten W.E. Pritchard ym 1933 a cheid yno le i 600 o wylwyr. Aeth y lle ar dân ar yr 21ain o Chwefror 1964 a dyna fu diwedd sinema’r Plaza. Ond roedd eisoes wedi cau ei drysau ar Dachwedd 23ain,1963.

Byddai’r Moto Coch (bysiau Clynnog & Trefor) yn aml yn rhedeg bws i ‘bictiwrs’ y Plaza o Drefor a bu’n drefniant poblogaidd iawn am gyfnod, yn arbennig yn ystod tuag ugain mlynedd cyntaf ei bodolaeth (circa 1933-53).

Dros y blynyddoedd bu mwy nag un sinema deithiol yn crwydro pentrefi’r cwmwd. Un o’r rhain oedd y rhyfeddol "Jay-Tee Cinema". Cafodd ei henw o enw ‘dyn y pictiwrs’ ei hun, John Thomas (JT=Jay-Tee), gŵr o Rostryfan neu Rosgadfan. Deuai i Drefor gyda’i holl offer a’i ffilmiau yng nghefn ei fan, a gosodai ei sgrîn a’i daflunydd a’i uchelseinyddion yn yr Hýt (hen neuadd sinc y pentref) ar gyfer diddanu’i gwsmeriaid ffyddlon ar noson waith unwaith yr wythnos.

Llwyfennid y sioe ddwywaith yn ystod y noson – y First House am 5 o’r gloch a’r Second House am 7.30. Yn ddi-feth dangosid tair ffilm. I agor y sioe ceid y ‘ffilm bach’, yna’r Pathé News (a sefydlwyd gan Charles Pathé ym 1910), ac yna’r ‘ffilm fawr’ – cowbois yn amlach na pheidio. Fe yngenid yr enw Pathé gan y plantos fel Pêth – rhyw ymdrech ddiniwed plantos uniaith Gymraeg at ynganu’r enw dieithr mewn Saesneg crand tybiedig.

Nodwedd bennaf, a diangof, y Jay-Tee Cinema oedd ei mympwy, ei hanwadalrwydd. Cofir yn arbennig am y ‘ffilm bach’ ddangoswyd tua 1953-54, ffilm gyfresol (serial) ddu-a-gwyn gyhoeddwyd ym 1949 gan Columbia Pictures, am un o farchogion y ford gron, Adventures of Sir Galahad, gyda George Reeves fel Galahad, William Fawcett fel Merlin, Nelson Leigh fel y Brenin Arthur a Hugh Prosser fel Lancelot.

Noson gynta’r tymor dangoswyd Pennod 1 a honno, fel pob pennod arall, yn gorffen â’r suspense mwyaf, gan adael y gynulleidfa ar bigau’r drain am wythnos gron gyfan, yn union fel y gorffennai penodau Gari Tryfan (Idwal Jones) ar Awr y Plant (radio) y cyfnod. Bai mawr yr hen Jay-Tee oedd ei fod yn llwyddo i siomi’i gynulleidfa yn ddi-feth yr wythnos ddilynol trwy eu harlwyo, nid â Phennod 2, ond â Phennod 4. Ac felly’n union o wythnos i wythnos a’r cyfan mewn trefn cwbl afreolaidd a dweud y lleiaf – Pennod 7, Pennod 2, Pennod 6, Pennod 3 ac ymlaen, ac ymlaen, ac ymlaen, yn herciog, di-drefn ac annealladwy.

Cam naturiol a disgwyliedig nesa’r perfformiad oedd cwyno a thuchan a hwtian a bwian o du llafnau a llafnesi’r meinciau cefn, pa rai a hawlient gyfran o’u tâl mynediad yn iawn am y camwri, gyda Jay-Tee druan yn rhyw led ymddiheuro am y diffyg. ‘Wedi anghofio trefn y penodau’ oedd ei esgus gwachul, celwyddog a thragwyddol bob gafael.

Lluniwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan Hwntw Mawr.