Pen-y-groes (Llanwnda)
Enw ar dyddyn a gefail oedd Pen-y-groes, plwyf Llanwnda. Roedd y tŷ'n dyddio'n ôl i'r 17g ac yn enghraifft o fwthyn wedi ei adeiladu o gerrig amrwd ar seiliau o gerrig mwy, a ffenestri bychain iddo. Roedd ysgol yn hytrach na grisiau i fynd i fyny i'r ail lawr. Roedd paredau coed a phlaster yn gwahanu'r ystafelloedd ac roedd rhan fwyaf y llawr yn llawr pridd. Erbyn canol yr 20g. roedd y tŷ mewn cyflwr gwael iawn a bron yn furddun, er iddo gael ei enwi ar fap Ordnans 1953.[1] Fe chwalwyd yr hyn a oedd ar ôl yn ystod y 1970au cyn codi tŷ newydd (Yr Hen Efail) sydd yn gartref i Dafydd Wigley a'i deulu.
Mae'n debyg i'r enw fod yn hen iawn ac yn cofnodi bodolaeth hen groesffordd ddiflanedig ar y lôn o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny cyn i'r ffordd dyrpeg newid trefn y ffyrdd. Mae'r safle hanner ffordd rhwng cyffordd y lôn i bentrefan Dinas a'r gyffordd lle mae ffordd Rhostryfan yn gadael y lôn bost.
Ym 1842, roedd yr eiddo yn perthyn i John Rowlands, Plastirion, Llanrug a thenant y fferm oedd John Roberts (g. tua 1780), a oedd yn ffermio saith cae yn ymestyn i ychydig mwy na naw erw.[2] Gwraig John Roberts oedd Anne Roberts a hanai o Fangor. Roedd hi'n dal yn fyw ym 1881. Roedd John Roberts yn of yn ogystal â thyddynnwr ac roedd yn cyflogi dau o'i feibion (John a Robert) fel gofaint hefyd, a mab arall, Mathew, fel saer olwynion.
Ymddengys fod dau deulu yn byw ym Mhen-y-groes tua diwedd y 19g., un yn ffermio a'r llall yn cadw gefail, gan fod gof yn byw ac yn gweithio yno - a hynny mor ddiweddar â 1911, pan oedd John Francis Roberts (ganwyd tua 1876) yno ac yn gweithio fel y gof. Fodd bynnag, mae lle i gredu fod y ddau deulu'n or-wyrion i John Roberts. Roedd tad John Francis, Griffith Roberts (g.1839), yn gweithio fel gof o'i flaen gyda'r teulu'n byw yn yr efail. Ymddengys mai mab i'r gof yn yr efail oedd yntau hefyd. Roedd Griffith yn rhedeg yr efail ym 1871, ond roedd John Roberts (g.1809), gof wedi ymddeol, yn byw yn y ffermdy, sef tŷ Pen-y-groes ei hun, ond fe nodir mai "imbecile" ydoedd. Prin y byddai dyn oedd yn dioddef o gyflwr meddyliol sylweddol wedi gallu gweithredu fel gof a magu teulu, ac felly rhaid amau mai dioddef o ddementia yr ydoedd erbyn 1871.[3]
Arferai gefail Pen-y-groes fod yn fusnes llewyrchus. Ym 1851, yn ogystal â John Roberts, cyflogid gof arall, ac roedd un, os nad dau, o'i feibion yn seiri olwynion - sydd yn awgrymu mai dyna oedd arbenigedd yr efail, sef gwneud olwynion certydd a gosod teiars haearn arnynt.