Goronwy Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Goronwy Roberts (1913-1981) oedd yr aelod seneddol dros etholaeth Caernarfon rhwng 1950 a 1974, pan gafodd ei drechu gan Dafydd Wigley. Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur, ac yn bur elyniaethus tuag at Blaid Cymru er ei fod yn credu mewn datganoli. Wedi iddo golli ei sedd seneddol, fe'i codwyd yn arglwydd am oes. Bu'n weinidog yn y Llywodraeth Lafur ac yn Ddirprwy Arweinydd Ty'r Arglwyddi. Gŵr o Fethesda ydoedd heb gysylltiadau agos ag Uwchgwyrfai, (ar wahân i'w dyletswyddau seneddol).[1]

Cyfeiriadau

.

  1. Erthygl Wicipedia ar Goronwy Roberts, [1], cyrchwyd 21.12.2022