Eisteddfa Rhedyw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Carreg fawr neu fegalith yn Nasareth yw Eisteddfa Rhedyw, ac ystyrir gan rai ei fod yn heneb yn hytrach na nodwedd ddaearyddol naturiol. Mae'n sefyll ar dir a fu gynt yn dyddyn, hwnnw hefyd â'r enw Eisteddfa Rhedyw. Mae Eisteddfa ac Eisteddfa Isaf yn dai yn Nasareth, ychydig i'r de o'r drofa am bentref Nebo.[1] ac mae carreg Eisteddfa Rhedyw gerllaw Eisteddfa Isaf, sydd yn fwthyn a gofrestrwyd fel un o ddiddordeb hanesyddol a/neu bensaernïol.[2]

Honnir gan rai mai Eisteddfa Rhedyw oedd cartref Sant Rhedyw ac mai'r garreg oedd ei gadair lle'r eisteddai a bod marciau ar y garreg yn dangos ôl ei fawd, a hefyd ôl troed ei geffyl.[3]

Efallai ei bod yn arwyddocaol nad yw Comisiwn Henebion Cymru wedi gweld yn dda i sôn am y safle yn eu cyfrol am Sir Gaernarfon, ac mai coel gwlad yn unig sydd wedi rhoi hynodrwydd i'r garreg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r fodfedd, 1888.
  2. Gwefan Dyffryn nantlle, [1]
  3. Gwefan Dyffryn Nantlle [2]; Y Gwladgarwr, Cyf.6 (1838), t.44