Eglwys y Bryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Eglwys y Bryn oedd yr enw a ddewisiwyd ar yr achos unedig pan ddaeth y ddau gapel o eiddo'r Methodistiaid Calfinaidd ar gyrrion Y Groeslon at ei gilydd. Unwyd yr aelodaeth, a sefydlwyd un set o swyddogion a blaenoriaid, ond cadwyd y ddau adeilad, sef Capel Bryn-rhos a Capel Bryn'rodyn (MC) fel mannau addoli, gyda'r gwasanaethau'n cael eu cynnal bob yr ail yn y dddau adeilad. Pan ddaeth yr achos i ben (gan uno'r swyddogol efo Capel y Groes (MC), Pen-y-groes), a hynny fis Gorffennaf 2018, fe gaewyd y ddau adeilad a'u gwerthu.[1]

Ni ddylid cymysgu Eglwys y Beyn gyda chapel o'r enw Capel y Bryn, a sefydlwyd gan Gapel Carmel (MC) ym 1906 mewn treflan oedd ar ei thwf, ac a enwyd wedyn ar ôl, sef pentrefan Capel-y-bryn, ond a gaeodd cyn diwedd y 20g.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol'