Cromlech Pennarth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae cromlech Pennarth yn heneb gyn hanesyddol yn Aberdesach ger Clynnog Fawr yng Nghwmwd Uwchgwyrfai. Credir ei bod yn dyddio o Oes y Cerrig (Neolithig), neu'r Oes Efydd. Nid yw mewn cyflwr cystal o bell fordd â chromlech Bachwen ar gyrion Clynnog gan fod capfaen cromlech Pennarth wedi syrthio i ganol y meini ar eu cyllyll a oedd yn ei gynnal. Hefyd mae rheiliau haearn wedi eu gosod o amgylch Cromlech Bachwen i'w gwarchod tra nad oes rhai o amgylch cromlech Pennarth. Y cyfeirnod grid yw SH42995107 ac mae i'w gweld yn glir o'r ffordd fechan sy'n mynd heibio iddi.


Dolenni allanol