Chwarel Pretoria

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi fach oedd Chwarel Pretoria (SH 515551) ar gomin Moel Tryfan ger pentref Y Fron. Roedd yn un o'r ychydig chwareli nad oedd ganddi gysylltiad â rheilffordd/tramffordd yn yr ardal, er mae'n debyg iddi ddefnyddio'r dramffordd a redai drwy'r Fron. Fe'i hagorwyd yn ystod y 1860au gan Gwmni Llechi Brynfferam, fel estyniad o'u gwaith yn Chwarel Brynfferam gerllaw. Roedd yno ddau dwll chwarel, ond cymharol ychydig o waith a wnaed yno. Oherwydd y prinder llechi'n genedlaethol o ganlyniad i streic y Penrhyn, 1900-03, bu i bartneriaeth leol, gyda phrydles oddi wrth gwmni Brynfferam, ei hailagor am ychydig.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.278-9