Chwarel Nant-y-fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Chwarel Nant-y-fron fel y mae heddiw

Mae Chwarel Nant-y-fron ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle uwchben pentref Tan'rallt. Chwarel dau dwll ydoedd, a'r rheini'n dyllau gweddol fach o'u cymharu â rhai Chwarel Dorothea, ond yn ddwfn er mwyn dilyn yr wythïen. Mae yno hefyd olion hen sied trin llechi. Bu'n gweithio rhwng 1840 a 1915, ac ar ei mwyaf cynhyrchiol cyflogwyd 100 o ddynion yno.[1] Mae ei safle rhwng Tal-eithin Isaf a Thaldrwst, ychydig o dan Chwarel Fronheulog. Dichon i lechi Nant-y-fron gael eu cludo ar hyd Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, sef y dramffordd a wasanaethai Chwarel Fronheulog ymysg rhai eraill llai. Maes o law, unwyd Chwarel Nant-y-fron gyda'r chwarel oedd agosaf ati, sef Chwarel Fronheulog neu Fronlog.[2] Caewyd y twll tua 1915, er iddi agor am sbel eto yn ystod y 1970au er mwyn cynhyrchu llechi a oedd yn nodweddiadol oherwydd eu lliw gwyrdd, llechi y bu peth galw amdanynt at ddiben addurno gerddi a waliau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth gan Eric Jones ar dudalen Wikipedia Commons, [1]
  2. Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llanrwst, 2007), t.78