Cau Tiroedd comin Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dechreuwyd cau tiroedd comin yng Nghymru mor fuan â diwedd yr Oesoedd Canol; tir y goron oedd llawer o'r tir mynydd yng Nghymru, gyda brenin Lloegr yn ei hawlio fel etifedd y tywysogion Cymreig. Rhoes y naill frenin ar ôl y llall roddion hael o dir y goron i'w gyfeillion, neu werthu peth ohono. Gosodwyd rhannau helaeth o diroedd y goron yn ogystal i landlordiaid a esgeulusai'n fwriadol dalu rhent amdanynt, fel y byddent yn dod yn eiddo iddynt ymhen amser. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd mewn amgáu a meddiannu tiroedd comin yn dilyn diddymu'r mynachlogydd yn ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg, gyda thirfeddianwyr yn meddiannu rhai o hen ffriddoedd y mynachlogydd. Yn wir, bu helynt ynghylch cau tir comin yn ardal Clynnog Fawr mor gynnar â 1595 [1] Ond y ddeunawfed ganrif a thri chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd prif gyfnod cau'r tiroedd comin yng Nghymru. Ym 1795 roedd 102,333 acer o dir comin yn Sir Gaernarfon ond erbyn 1895 roedd wedi gostwng i 30,042.

Y prif reswm a roddid dros gau'r tiroedd comin oedd y byddai hynny'n cynyddu cyflenwad bwyd y wlad, ac er bod peth sail i hynny, roedd ar y llaw arall yn amddifadu'r tlodion rhag rhoi eu hanifeiliaid i bori ar y comin a thorri mawn, hel eithin i'w losgi a gweithgareddau o'r fath yr oeddent yn ddibynnol arnynt am eu cynhaliaeth. Roedd y tirfeddianwyr hefyd yn awyddus iawn mewn llawer achos i gael meddiant o'r tiroedd comin oherwydd y cyfoeth o fwynau, megis llechi, plwm, copr ac ati a oedd dan y tir. Roeddent yn ogystal eisiau cadw'r comin yn glir er mwyn magu grugieir a phetris arno i'w hela - fel y bwriadai Thomas Assheton Smith, Y Faenol ei wneud gyda thiroedd comin Llanddeiniolen.

Yn ogystal â chau tiroedd comin ar ffriddoedd a llethrau'r mynyddoedd, gwnaed llawer o waith hefyd i adennill tiroedd o'r môr a'u sychu. Yr enghraifft amlycaf yn yr ardaloedd hyn oedd codi'r Cob ym Mhorthmadog ac adennill y Traeth Mawr, ond bu gweithredu yn hyn o beth yn Uwchgwyrfai hefyd. Ym 1806 pasiwyd deddf seneddol i sychu dros ddwy fil o aceri ym Morfa Dinlle a chodi cloddiau llanw ac agor ffosydd dyfnion i atal y môr rhag gorlifo dros y tir a'i ddifetha.

Ym 1806 pasiwyd deddf seneddol (a ddiwygiwyd ym 1808) i gau tiroedd comin a thir gwyllt sylweddol iawn ym mhlwyf mawr Llanddeiniolen ac arweiniodd hynny at derfysgoedd a gwrthdaro. Y prif ysgogydd yn hyn o beth oedd Thomas Assheton Smith, sgweier stad Y Faenol, dyn a oedd yn berchen ar rannau sylweddol o diroedd Llanddeiniolen yn barod ac a oedd yn awchu am lawer mwy. Y cyfreithiwr a weithredai ar ran Assheton Smith oedd John Evans, brodor o Nantlle, a oedd â busnes cyfreithiol llewyrchus ym Mhlas Porth-yr-aur yng Nghaernarfon. Olynwyd ef yn y busnes wedyn gan ei nai, Evan Evans. Mae papurau pwysig Porth-yr-aur ar gael yn Archifau Prifysgol Bangor ac yn cynnwys llawer o wybodaeth am helyntion cau'r tiroedd comin.

Y bobl a ddioddefai fwyaf oddi wrth gau'r tiroedd comin oedd y sgwatwyr, a oedd wedi codi tai iddynt eu hunain ar y comin a chlirio a thrin darn o dir o'u cwmpas i'w ffermio. Pan gaeid tiroedd comin y drefn arferol oedd gadael i sgwatwyr a fu yno am dros 20 mlynedd i gadw eu tai a'u tiroedd, ond os byddent wedi bod yno am lai na hynny cymerid y cyfan oddi arnynt a thalu swm eithriadol fychan i'w digolledu am y tai a'r adeiladau. Ni chaent ddim am eu llafur yn codi'r adeiladau a diwyllio'r tir. Bu helynt mawr ar dir comin Llanddeiniolen ym Medi 1809 pan ddaeth John Evans y cyfreithiwr yno gyda chwnstabliaid i geisio dymchwel tŷ heb ei orffen a godwyd gan Ellis Evans, tad Y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy. Taflwyd cerrig, baw a dŵr poeth atynt a galwyd ar yr ynad lleol i ddarllen y Ddeddf Derfysg. Ar gais Assheton Smith daeth carfan o ddragwniaid i'r ardal yn dilyn hyn a charcharwyd rhai o'r tyddynwyr am rai misoedd yng ngharchar Caernarfon. Fodd bynnag, llwyddodd Assheton Smith i grafangu 2,610 o aceri yn ychwanegol at ei diroedd drwy gau tir comin Llanddeiniolen - yn ogystal â'r llechfaen gwerthfawr dano ar lethrau'r Elidir - ac elwodd rhai tirfeddianwyr eraill hefyd i raddau llai - megis Arglwydd Newborough, Glynllifon, a gafodd 110 acer.[2]

Ym 1812 wedyn pasiwyd deddf i gau tiroedd mewn nifer o blwyfi, o Nefyn i Lanllyfni. Bu gwrthwynebiad mawr yn Llanllyfni a Phistyll, gyda merched a phlant yn ymosod ar y dirprwywyr a'r mesurwyr tir a anfonwyd i fesur a rhannu'r tir a oedd i'w amgáu. Unwaith yn rhagor anfonwyd am filwyr ar geffylau (dragwniaid) i gadw rhyw fath o drefn a gorfodwyd pobl leol, yn amlwg yn erbyn eu hewyllys, i roi llety i'r milwyr hyn. Yn dilyn terfysg yn Llithfaen a Phistyll, cafodd nifer eu dwyn o flaen y Llys Chwarter a dedfrydwyd Robert William Hughes a David Rowlands i farwolaeth am beidio â gwasgaru ar ôl i'r Ddeddf Terfysg gael ei darllen. Ni weithredwyd y gosb diolch i'r drefn, ond alltudiwyd Robert Hughes i Botany Bay am weddill ei oes. Mae'n ymddangos i David Rowlands gael cosb ysgafnach.[3]

Bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach bu helynt mawr arall yn Uwchgwyrfai yn ymwneud â chau tiroedd comin pan wnaeth Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, gais am ddeddf seneddol ym 1826 i gau tiroedd comin ar lethrau uchaf plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Ym 1809 nid oedd gan dyddynwyr comin Llanddeiniolen unrhyw un i'w hamddiffyn rhag rhaib Assheton Smith a chyfrwystra ei gyfreithiwr, John Evans, ond roedd gan sgwatwyr Llandwrog a Llanwnda gyfaill grymus yn gefn iddynt. Hwn oedd Griffith Davies FRS, mab i dyddynnwr o'r Beudy Bach ar Fynydd y Cilgwyn. Roedd Griffith Davies yn gyfrifydd a mathemategydd hynod alluog a oedd eisoes wedi gwneud ei farc yn Llundain, a phan ddaeth y bygythiad o du Arglwydd Newborough, cysylltodd y tyddynwyr â Griffith Davies i ofyn am ei gymorth. Fe wnaeth yntau eu cynghori i wneud Deisyfiad i'r Senedd am gael cadw eu cartrefi a gofynnodd hefyd i'w gyfeillion yn y Senedd wrthwynebu cais Newborough am ddeddf seneddol i gau'r tiroedd. Nodwyd yn y Deisyfiad mai chwarelwyr oedd y mwyafrif ohonynt a'u bod wedi adeiladu tai ar y comin dros gyfnod o 40 mlynedd gan dybied ei fod yn dir rhydd. Erbyn hynny roedd arno 141 o dai a thua 700 o bobl yn byw ynddynt. Roeddent yn pwysleisio eu bod wedi llafurio i wella'r tir a'u bod yn talu trethi a ddim yn faich ar unrhyw blwyf. Gofynnent am gael cadw eu tai a'u tiroedd, a thalu rhent i'r Goron yn ôl beth oedd gwerth y tir cyn iddynt ei drin. Cynhaliodd Cymry Llundain gyfarfodydd i'w cefnogi a threfnodd Griffith Davies i'r Deisyfiad gael ei argraffu ac anfonodd gopïau i aelodau'r Senedd a phobl amlwg eraill. O weld maint y gwrthwynebiad iddo tynnodd Newborough ei gais am ddeddf seneddol yn ôl. I ddangos eu diolchgarwch, bragodd tyddynwyr Y Cilgwyn gasgennaid o gwrw a'i hanfon yn rhodd at eu cymwynaswyr yn Llundain. [4]

Priodol yw cydnabod y seiliwyd y rhan fwyaf o'r wybodaeth a geir yn yr erthygl uchod ar gyfrol bwysig David Thomas, Cau'r Tiroedd Comin (Lerpwl, di-ddyddiad).


Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Cau'r Tiroedd Comin, (Lerpwl, di-ddyddiad), t.12
  2. David Thomas, Cau'r Tiroedd Comin, (Lerpwl, di-ddyddiad), tt.32-46.
  3. David Thomas, Cau'r Tiroedd Comin, (Lerpwl, di-ddyddiad), tt.56-7. Gweler hefyd Ioan Mai, O Ben Llŷn i Botany Bay, (Llyfrau Llafar Gwlad 26, 1993).
  4. David Thomas, Cau'r Tiroedd Comin, (Lerpwl, di-ddyddiad), tt.58-9.