Bysus Gwynfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni o Langefni, Ynys Môn, yw Bysus Gwynfor, a sefydlwyd ym 1979.[1]

Cymerwyd contract i redeg bysus Sherpa o Gaernarfon i Feddgelert trwy'r Waunfawr wedi i gwmni Moduron Express fethu ar ddechrau 2018, gan groesi i Uwchgwyrfai rhwng Pont Cyrnant a Chastell Cidwm. Cymerwyd gwasanaethau eraill Express drosodd ar y pryd gan gwmni Tacsi Gwynedd (bysus Huw), ond collodd y cwmni hwnnw ei drwydded ddiwedd Awst 2018, a chymerodd Gwynfor y contract i redeg y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau (ond am rai min nos a rhai ar y Sul) o Gaernarfon i wahanol rannau Dyffryn Nantlle (gwasanaethau 1A, 1F a 1N).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Gwynforcoaches [http://www.gwynforcoaches.co.uk/}, cyrchwyd 16.9.2018