Bysus Huw

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Tacsi Gwynedd)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bysus Huw oedd yr enw a ddefnyddid ar ochr bysiau a oedd yn cael eu rhedeg gan Cwmni Tacsi Gwynedd Cyf i wahanol rannau o Ddyffryn Nantlle, wedi i gwmni Express Motors golli ei drwydded i redeg gwasanaethau ddechrau 2018. Ddiwedd Awst 2018, fodd bynnag, tynnodd y Comisiynwyr Traffig, y drwydded oddi ar gwmni Tacsi Gwynedd, ac ers hynny mae cwmni Bysus Gwynfor o Langefni wedi bod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o wasanaethau 1A, 1F a 1N rhwng pentrefi Dyffryn Nantlle a Chaernarfon. Mae rhai gwasanaethau hefyd yn cael eu darparu gan Fysus Dilwyn.