Chwarel Nant-y-fron
Mae Chwarel Nant-y-fron ar ochr ddeuheol Dyffryn Nantlle uwchben pentref Tan'rallt. Chwarel dau dwll, a'r rheini'n dyllau cymharol o fach wrth ochr rhai Dorothea, ond yn ddwfn er mwyn dilyn y gwythïen. Mae yno hefyd olion hen sied trin llechi. Bu'n gweithio rhwng 1840 a 1915, ac ar ei mwyaf cynhyrchiol cyflowyd 100 o ddynion yno.[1] Mae ei safle rhwng Tal-eithin Isaf a Thaldrwst, ychydig o dan Chwarel Fronheulog. Dichon i lechi Nant-y-fron gael eu cludo ar hyd Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, sef y dramffordd a wasanaethai Chwarel Fronheulog ymysg eraill llai.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma