Comin Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:10, 14 Hydref 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Comin Uwchgwyrfai yw'r tir agored yn rhan uchaf plwyfi Llandwrog a Llanwnda. nas caewyd o'r mynydd adeg cau'r tiroedd comin oherwydd gwrthwynebiad i gynlluniau'r Arglwydd Newborough a arweinwyd gan Griffith Davies, yr actiwari yn Llundain a hanodd o'r ardal.[1] Mae llawer wedi cael ei brydlesu gan y Goron dros y blynyddoedd ar gyfer chwareli llechi, ond erys erwau eang o dir mynydd a gweundir. Mae nifer o ffermwyr yr ardal yn dal i arddel eu hawlio pori ar y comin.

Mae'r comin fel y mae heddiw'n cynnwys llethrau Moel Smytho, Moel Tryfan, llethrau uchaf Mynydd Mawr ar bob ochr (yn cynnwys darnau uchaf Cwm Du a Chwm Planwydd, Rhos y Pawl a'r cwbl o Fynydd Cilgwyn i gyd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Cau'r Tiroedd Comin, (Lerpwl, d.d.), tt.58-9
  2. Map ar lwybr Mynydd Cilgwyn