Cwm Planwydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwm ar ochr ddwyreiniol Mynydd Mawr yw Cwm Planwydd. Caiff ei enw o'r fferm ger ei waelod, sef Planwydd. Ar hyd ei waelod mae Afon Goch yn rhedeg, ac ar ei ochr ogleddol, nid nepell o Lyn Cwellyn, y mae craig fawr Castell Cidwm.

Nid oes fawr nodedig ynglŷn â'r cwm heblaw am y golygfeydd trawiadol ar bob tu, ond ger ei ben uchaf mae olion hen gorlan neu loc, ar ffurf y llythyren 'D', er mwyn cadw anifeiliaid, ac sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd.[1]

Mae olion sawl damwain awyren yn dal i'w gweld yn y cwm, yn eu mysg olion awyren Vampire a darodd y llawr ar daith hyfforddi o'r Fali ym Môn ym 1956; dynodir safle'r gwrthdrawiad gyda llythrennau 'VZ' wedi eu ffurfio ar y llawr gyda cherrig. Hefyd ceir olion awyren Mosquito a gafodd ddamwain ym 1944.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1] cyrchwyd 9.5.2020
  2. Gwefan Military Aircraft Crash Sites, [2] cyrchwyd 9.5.2020