Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes
Sefydlwyd Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes ym 1968, gan Bwyllgor Lleol Pen-y-groes o Lyfrgell Sir Gaernarfon. Ei nod oedd i "gael un gŵr enwog i roi darlith yn flynyddol ar yr hen ardal, sef Dyffryn Nantlle, a chyhoeddi'r ddarlith honno, fel yng nghwrs blynyddoedd y ceir cyfrolyn cynnwys hanes pur gyflawn a chywir am y pwnc".[1] Cafwyd yr adnoddau i sefydlu a gwaddoli'r ddarlith trwy ddefnyddio rhan o gymunrodd sylweddol Mrs Elizabeth Hughes, Arosfa, Pen-y-groes.
Er nad yw'r dyfyniad uchod yn gwneud hynny'n glir, y bwriad o'r cychwyn oedd estyn gwahoddiad ond i'r rhai a hanai o'r Dyffryn a'r pentrefi cyfagos - er bod un neu ddau o "bobl dŵad" wedi cael gwahoddiad erbyn hyn. Gosodwyd y safon yn uchel: ymysg y darlithwyr cynnar yr oedd Gwilym R. Jones, Mathonwy Hughes, R. Alun Roberts, John Gwilym Jones, Tom Parry, Gruffydd Parry a Kate Roberts. Mae traddodwyr y ddarlith yn cael rhyddid i ddewis eu maes, a thra bod rhai wedi cynhyrchu darlith llawn atgofion, aeth eraill ar drywydd tesun arbennig a chyflwyno cyfraniad mwy academig hanesyddol ei naws. Er bod Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd wedi bod yn gyfrifol ers 1996 am y ddarlith, ni tharddwyd ar y patrwm o wahodd rhywun lleol fel darlithydd, ond erbyn hyn mae trefniadau'r noson ei hun yn nwylo Cymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle. O'r ddarlith gyntaf ymlaen, yr arfer oedd cyhoeddi'r ddarlith (neu fersiwn estynedig ohoni os oedd yn gynnyrch gwaith ymchwil mwy swmpus) ar ffurf pamffledyn, ac mae hyn yn parhau.[2] Ers 2018, mae'r ddarlith hefyd ar gael ar y we ar ffurf e-lyfryn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma