Elizabeth Hughes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Mrs Elizabeth Hughes, a fu'n byw yn Arosfa, Pen-y-groes, yn hanu'n wreiddiol o ardal Rhosgadfan. Yn ei hewyllys gadawodd swm sylweddol i'w fuddsoddi, gyda'r incwm i'w wario er budd llyfrgell gyhoeddus Pen-y-groes. Defnyddir peth o'r incwm er mwyn noddi darlith flynyddol gan rywun o Ddyffryn Nantlle. Er i Elizabeth Hughes farw yn y 1960au, mae'r arian yn dal i gael ei ddefnyddio gan y Cyngor Sir i gynnal darlith Pen-y-groes a'i hargraffu bob blwyddyn ac i dalu tuag at gostau cyffredinol Llyfrgell Pen-y-groes.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma