Capel Tal-y-sarn (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:08, 5 Ebrill 2020 gan 78.144.89.69 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn oedd Capel Tal-y-sarn (MC).[1]. Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll. Mae wedi cael ei restru'n raddfa 2 gan CADW oherwydd ei splendidly sumptuous interior.[2]

Agoriad a'r capel cyntaf

Agorwyd y Capel ei hun ym mis Awst 1821. Dyma oedd ail gangen i gael ei ffurfio allan o gapel Llanllyfni. Cyn sefydlu'r capel mewn adeilad, roedd pregethu wedi bod ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth drafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd, mae'r safle dan domen rwbel anferth.

Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau Dyffryn Nantlle. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Aeth yr achos o nerth i nerth, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn, a sefydlu Cymdeithas y Rechabiaid yno yn 1841. YM 1840, profwyd diwygiad ymysg merched y capel.

Yr ail gapel

Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis Tal-y-mignedd, ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog John Jones, Tal-y-sarn a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel Cloddfa'r Coed yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.

Noda William Hobley fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun. Teimlai'r beirniad, Eben Fardd, nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:

Wele ein capel newydd - hylaw
Helaeth a chelfydd.
Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd
Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd."
William Hughes, Tŷn y werglodd
Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
a chynnal ddysgeidiaeth,
A lle'r addoli ddaeth
Digon i'r holl gymdogaeth."
William Owen, Hafodlas

Yn ystod y 1850au a 1860au, er gwaethaf creu nifer o ganghennau a aeth yn eglwysi annibynnol o'r Capel Mawr, tyfodd yr aelodaeth o 168 ym 1854 i 284 ym 1860, wedi Diwygiad 1859. Bu peth leihad oherwydd y canghennau newydd yn ystod yr 1860au, ond erys yr aelodaeth yn 220 erbyn 1868.

Canghennau

Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal Y Fron i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw Cesarea, ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Ym 1849, gwnaed yr un peth yn y Cilgwyn trwy sefydlu ysgol yno, er i honno yn y man fynd yn Capel Cilgwyn (A) gapel i'r Annibynwyr. Ym 1857, sefydlwyd cangen fel ysgol Sul, Baladeulyn yn y pentref a elwir heddiw yn Nantlle, ac ym 1862 aeth Baladeulyn yn achos ar wahân. Ym 1863, ffurfiwyd cangen-ysgol yn Nhan'rallt, ac fe agorodd Capel Tan'rallt (MC) fel eglwys ar wahân ym 1882, pan aeth 43 o aelodau'r Capel Mawr yn aelodau Tan'rallt.

Yr oedd y canghennau hyn ar gyrion dalgylch y Capel Mawr, ac mi wnaeth bob synnwyr i'r pentrefi gwahanol gael eu capeli eu hunain gan gymaint oedd y galw. Teimlid, fodd bynnag, fod angen capel arall yn nes at ben Pen-y-groes i'r pentref, ac fe sefydlwyd cangen-eglwys yng nghapel newydd Hyfrydle.

Ym 1873, sefydlwyd ysgol Sul i blant tlawd mewn ystafell yng Nghefncoed, ac roedd tua 30 o blant yn ei mynychu.

Ysgol ddyddiol y capel

Roedd goruwchystafell yn y capel ar gyefr cyfarfodydd, ac yno fe gynhaliwyd ysgol ddyddiol am flwyddyn nes agor ysgol bwrdd yn y pentref. Digwyddodd hyn yn ystod 1856-7, gyda'r Parch. D.D. Jones, Bangor, yn athro, a phwyllgor a apwyntiwyd gan yr eglwys yn ei redeg. Fodd bynnag, nid oedd y cyfleusterau'n dderbyniol ar gyfer ennill grant gan y Llywodraeth at gynnal yr ysgol. Cynhelid ysgol nos hefyd gan yr athro a hynny ar gyfer oedolion.

Blaenoriaid

Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn Llanllyfni yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, i fod yn flaenor.

John Jones Talysarn

Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes John Jones, Tal-y-sarn, gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth yn y lle cyntaf i'r capel ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr.

Y trydydd capel

Teimlid erbyn canol yr 1870au fod y capel wedi mynd yn rhy fach, ac fe'i ehangwyd, trwy ddefnyddio rhai o'r waliau a'r sylfeini i godi capel newydd, ac fe wnaed cryn dipyn i sicrhau ei fod yn gapel hardd a chyfleus. Costiodd y capel newydd £3046 i gyd, ac yr oedd yno seddau i 700. Owen Morris Roberts o Borthmadog oedd y pensaer.[3] Dyma un o gapeli mwyaf Arfon felly. Fe'i agorwyd yn swyddogol 11 Chwefror 1878 pan fu'r Cyfarfod Misol yn cyfarfod yno.

Ym 1899 adeiladwyd mans ar gyfer y gweinidog, ac ym 1901 gosodwyd organ fawr yn y capel.

Yn sicr, bu codi capel newydd yn dwyn ffrwyth, ac yn fuan wedi ei agor, roedd 306 o aelodau yno, nifer a gynyddodd i 365 erbyn 1900.

Cyfeiriadau

  1. Prif ffynhonell ar gyfer yr erthygfl wreiddiol yma yw Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 187-211
  2. Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 5.4.2020
  3. Gwefan Coflein, [2], cyrchwyd 5.4.2020