Maestryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:02, 24 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Maestryfan yn bentrefan ym mhlwyf a chymuned Llandwrog, lle bu ffatri ŵlan ar un adeg, sef Ffatri Tryfan. Mae Afon Llifon yn rhedeg trwy'r dreflan mewn ceunant sy'n dyfnhau i gyfeiriad y môr. Prin bod hanner dwsin o dai yma nes i'r cyngor dosbarth lleol, Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai, godi cilfach o dai cyngor yng nghanol ffermydd ar gyfer gweision fferm yr ardal, a hynny yn y 1930au. Ni arddelid yr enw Maestryfan ar fapiau Ordnans mor ddiweddar â 1949. Daeth yr enw a roddwyd ar yr ystad fechan o dai cyngor, gan gyfeirio at hen enw ar y rhan hon o blwyf Llandwrog, sef Tryfan. Mae Plas Tryfan a Thryfan Uchaf nid nepell o'r fan hon ar draws y caeau.

Y mae un ffordd o Faestryfan yn arwain at y lôn bost ger Capel Bryn'rodyn, un arall i gyfeiriad Penfforddelen, a'r llall i gyfeiriad Rhos-isaf. Roedd nifer o lwybrau hefyd yn cwrdd ar gyffordd y ffyrdd hyn, ac mae'n amlwg bod yr holl ffyrdd a llwybrau hyn yn dangos bod Maestryfan yn gyrchfan oherwydd y felin oedd yma gynt.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma