Llongau Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:34, 17 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nid oes llawer o hanes am longau a berthynai'n benodol i Uwchgwyrfai ond gellid sôn am y llongau a adeiladwyd o fewn ffiniau'r cwmwd neu gerllaw fel Llongau Uwchgwyrfai.

Mae David Thomas yn rhestru'r rhain yn ei lyfr ar longau'r sir.[1] Dyma nhw, ynghyd â'r mannau lle'u hadeiladwyd:

ABERMENAI
Speedwell, slŵp 010 tunnell a adeiladwyd ym 1789, ac a werthwyd yng Nghaer ym 1804
Y FORYD - ni ddywedir am ochr Uwchgwyrfai neu ym mhlwyf Llanfaglan yr oedd hyn
Ellen Glynne, smac 37 tunnell a adeiladwyd ym 1843 gan Thomas Edwards. Fe'i chollwyd ger Saltney ym 1867
Laura Ann, smac 29 tunnell a adeiladwyd ym 1846 gan Thomas Edwards. Fe'i chollwyd  ym 1854
CLYNNOG
Nancy, slŵp 32 tunnell a adeiladwyd ym 1780, ac a gollwyd ym 1817
LLANAELHAEARN neu, yn gywirach, ar y lan yn Nhrefor
Arvon Lass, slŵp 20 tunnell a adeiladwyd ym 1854 gan Evan Thomas
Zion Hill, sgwner 93 tunnell a adeiladwyd gan Evan Thomas. Fe'i gwerthwyd yn Loch Garman (Wexford), 1891
Ion, brigantîn 230 tunnell a adeiladwyd gan H. Thomas yn ôl pob tebyg. Roedd ei pherchnogion yn Lerpwl. Fe'i gwerthwyd yn Norwy, 1884


Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206