Slŵp y ''Speedwell''
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Y Speedwell oedd yr unig long y gwyddys amdani a adeiladwyd yn Abermenai. Fe'i hadeiladwyd ym 1789. Slŵp fechan iawn ydoedd, yn ddim ond 10 tunnell o ran tunelledd. Fe'i gwerthwyd yng Nghaer ym 1804. Roedd hon yn un o linach hir o longau yn perthyn i borthladd Caernarfon i gario'r enw Speedwell.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206