Smac yr ''Ellen Glynne''

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr Ellen Glynne oedd un o'r ddwy long y gwyddys amdanynt a adeiladwyd yn Y Foryd. Fe'i hadeiladwyd ym 1843, yn llong weddol fechan yn ei chyfnod, yn 37 tunnell o ran tunelledd. Ei hadeiladydd oedd Thomas Edwards, a dichon ei bod wedi ei henwi ar ôl aeres olaf Teulu Glyn (Glynllifon), neu'r Ellen Glynne a sefydlodd elusendai yn Llandwrog. Fe'i collwyd rhwng Duddon a Saltney ar Afon Dyfrdwy ym 1867. [1]

Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206