Tudur Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:02, 28 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trigai Tudur Goch ap Goronwy ym Plas Nantlle, a fo oedd penteulu y llinach a ddaeth (yn honedig) o Cilmin Droed-ddu ac, yn ôl yr achresi, yn or-or-wyr i Ystrwyth ab Ednowain, prif glerc Llywelyn Fawr. Priododd â Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy Morgeneu Ynad; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i Hwlcyn Llwyd, y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng Nglynllifon. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu Cwellyn a William.[1]

Roedd teulu Tudur Goch yn gyson gefnogol i goron Lloegr, ac yn sicr roedd Tudur yn was ffyddlon i'r Tywysog Du, Edward o Woodstock (1330-76), mab y brenin Edward III. Roedd tiroedd yn Nantlle wedi eu cipio gan goron Lloegr ym 1284 fel tiroedd brenhinol, gan yr oeddynt gynt yn eiddo i dyuwysogion Gwynedd. I gydnabod ei wasanaeth milwrol yn Ffrainc, roddodd y Tywysog Du chwe chyfer o dir yno i Tudur,[2] ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172
  2. W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
  3. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26