Tudur Goch
Trigai Tudur Goch ap Goronwy ym Plas Nantlle, a fo oedd penteulu y llinach a ddaeth (yn honedig) o Cilmin Droed-ddu ac, yn ôl yr achresi, yn or-or-wyr i Ystrwyth ab Ednowain, prif glerc Llywelyn Fawr. Priododd â Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy Morgeneu Ynad. Roedd yn dad i Hwlcyn Llwyd, y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng Nglynllifon. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu Cwellyn a William.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172