Capel Tai Duon (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:30, 14 Tachwedd 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Capel Tai Duon, hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, wedi hen gau ond mae'n dal yn sefyll wrth fynwent Tai Duon ger Pant-glas. Saif ar yr hen ffordd gefn rhwng Tafarn-faig a Nasareth. Perthynai'r capel i Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd a pheidiodd a chael ei defnyddio'n helaeth wedi i Gapel Libanus agor mewn man mwy cyfleus yn y pentref. Mae map Ordnans 1888 yn nodi nad oedd yn cael ei ddefnyddio hyd yn oed yr adeg hynny. Bu ymgyrch diweddar i gadw ac adfer yr adeilad er gwaethaf cais i'w dymchwel, fel modd o sicrhau cysgodfan i bobl sydd yn mynychu'r fynwent ar gyfer angladdau, gan fod y fynwent heb ei chau'n llwyr.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma