Gorsaf reilffordd Waun-fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:32, 27 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Er i orsaf Waun-fawr arfer bod ym mhlwyf Llanwnda ac felly yn Uwchgwyrfai, roedd yn gwasanaethu pentref yn Isgwyrfai. Saif ar lan yr Afon Gwyrfai, ac fe'i adeiladwyd gan cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a'i hagor ym 1878. Dyma yw'r man cyntaf ar y lein ar ôl cychwyn o Gyffordd Dinas lle gall trenau groesi, gan fod y brif lein yn sengl (sef, ar gyfer trenau sy'n teithio i'r ddau gyfeiriad). Serch hynny, roedd hi'n 1895 cyn i'r cwmni weld yr angen am osod lŵp yma. Mae'r platfform bellach ar ffurf ynys rhwng y ddwy set o gledrau yn y lŵp. Gosodwyd signalau a bocs signalau ym 1895 ond atalwyd y defnydd ohonynt cyn 1920. Caewyd yr orsaf i deithwyr ym mis Medi 1936 ac ar gyfer nwyddau, 31 Mai 1937.

Chwalwyd olion yr adeiladau gwreiddiol a oedd i'r dwyrain o'r brif lein wrth ail-adeiladu'r lein ar ddechrau'r ganrif hon. Mae'r bont droed hefyd yn nodwedd newydd. Fe'i hail-agorwyd yn ystod mis Awst 2000. Rhwng 2000 a 2003 dyma oedd pen y lein nes i'r darn rhwng Waun-fawr a Phont Croesor gael ei hail-osod.

Roedd un seidin nwyddau gyferbyn â'r platfform, ac ychydig i'r de, trôdd cangen neu seidin fer Parc Dudley i ffwrdd i gyfeiriad chwarel ithfaen Parc Dudley. Codwyd hon yn y 1920au.

Rheolid traffig yn yr orsaf gan signalau ar ôl 1895, er i'r rhain beidio â bodoli rywdro cyn 1920.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), tt.1-2, 194-5
  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 2 (Oakwood, 1989), t.39
  • Peter Johnson, An Illustrated History of the Welsh Highland Railway, (OPC, 2002), tt.54, 99-101