Inclein Bryngwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:41, 26 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Inclein Bryngwyn yn cysylltu Gorsaf reilffordd Bryngwyn, gorsaf olaf Cangen Bryngwyn Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, gyda'r chwareli llechi ar lethrau Moel Tryfan ac ardal Y Fron. Defnyddiodd y chwareli hyn draciau'r un led â Rheilffordd Cul Gogledd Cymru, ac felly roedd modd i wagenni deithio'r holl ffordd o'r chwarel i'r cei drawslwytho Gorsaf reilffordd Dinas. Byddid yn gollwng y wagenni llawn i lawr yr inclein ar draws y tir comin trwy ddefnyddio rhaffau wedi'u tynnu gan drwm weindio, a thynnu'r rhai gweigion yn ol yr un ffordd. Roedd seidins yng ngorsaf Bryngwyn lle arhosid y wagenni nes bod trên nwyddau yn eu casglu.

Mae olion yr inclein i'w gweld hyd heddiw ar ochr y bryn uwchben y Bryngwyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma